Cynnwys
WYTHNOS 30 MAI, 2016–5 MEHEFIN, 2016
3 Mae Bod yn Ffyddlon yn Plesio Duw
Bydd yr erthygl hon yn trafod beth wnaeth helpu Jefftha a’i ferch i aros yn ffyddlon hyd yn oed yn ystod cyfnodau anodd. Byddwn yn dysgu pam mae cael bendith Jehofa yn werth unrhyw aberth.
WYTHNOS 6-12 MEHEFIN, 2016
9 “Gadewch i Ddyfalbarhad Gyflawni ei Waith”
Er mwyn cael bywyd tragwyddol, mae’n rhaid dyfalbarhau hyd y diwedd. Bydd yr erthygl hon yn trafod pedwar peth a fydd yn ein helpu i ddyfalbarhau yn ogystal â thair esiampl o ddyfalbarhad ffyddlon. Mae hefyd yn egluro pa waith y mae dyfalbarhad yn gorfod ei gyflawni ynon ni.
WYTHNOS 13-19 MEHEFIN, 2016
15 Pam y Dylen Ni Gwrdd Gyda’n Gilydd i Addoli?
Mae yna lawer o bethau sy’n ei gwneud hi’n anodd inni fynychu’r cyfarfodydd. Bydd yr erthygl hon yn ein hannog ni i ddal ati i fynychu’r cyfarfodydd drwy egluro pam maen nhw’n fuddiol, a pham mae mynd iddyn nhw’n plesio Jehofa.
WYTHNOS 20-26 MEHEFIN, 2016
21 Aros yn Niwtral Mewn Byd Rhanedig
Er bod llawer o lywodraethau’r byd yn caniatáu inni aros yn niwtral, mae’n debyg y bydd hynny’n newid wrth i’r diwedd agosáu. Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried pedwar peth a fydd yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon i Jehofa.