Cynnwys
WYTHNOS 29 HYDREF, 2018–4 TACHWEDD, 2018
3 “Dych Chi’n Gwybod y Pethau Yma, Ond eu Gwneud Sy’n Dod â Bendith”
Mae gwybodaeth yn werthfawr inni dim ond os ydyn ni’n ei defnyddio. Ond, mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig er mwyn rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i aros yn ostyngedig drwy ddangos inni sut i efelychu esiamplau o rai yn y Beibl a oedd yn pregethu i bobl o bob math, yn gweddïo dros bobl eraill, ac yn aros yn amyneddgar i Jehofa weithredu.
WYTHNOS 5-11 TACHWEDD, 2018
8 Dal Ati i Ddangos Cariad—Mae’n Adeiladu
Rydyn ni’n byw mewn amseroedd anodd, a hawdd yw teimlo’n ddigalon ac anobeithio. Bydd Jehofa ac Iesu yn ein helpu, ond mae cyfrifoldeb arnon ninnau hefyd i gysuro ein gilydd. Mae’r erthygl hon yn ein dysgu sut i adeiladu ein gilydd mewn cariad.
14 Wyt Ti’n Gwybod Faint o’r Gloch Yw Hi?
WYTHNOS 12-18 TACHWEDD, 2018
15 Hapus Yw’r Rhai Sy’n Gwasanaethu’r Duw Hapus
Jehofa ydy’r Duw hapus, ac mae eisiau i’w weision fod yn hapus. Ond sut gallwn ni fod yn hapus er bod gennyn ni broblemau a thrafferthion oherwydd ein bod ni’n byw ym myd Satan? Yn y Bregeth ar y Mynydd, gwnaeth Iesu ein dysgu ni sut i fod yn hapus nawr ac am byth.
WYTHNOS 19-25 TACHWEDD, 2018
21 Yn Hollalluog Ond yn Ystyriol
WYTHNOS 26 TACHWEDD, 2018–2 RHAGFYR, 2018
27 Bydda’n Ystyriol ac yn Garedig Fel Jehofa
Heddiw, mae pobl yn mynd yn fwy ac yn fwy hunanol. Ond, mae gwir Gristnogion yn wahanol oherwydd eu bod nhw’n caru pobl. Un ffordd o brofi eu cariad ydy bod yn ystyriol o bobl eraill. Yn y ddwy erthygl hyn, byddwn yn gweld sut mae Jehofa yn ystyriol tuag at bob un ohonon ni, a byddwn yn dysgu sut y gallwn ni ei efelychu.