LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwex erthygl 17
  • Llifogydd a Ddaeth â Newyddion Da

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Llifogydd a Ddaeth â Newyddion Da
  • Profiadau Tystion Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Llongddrylliad
    Storïau o’r Beibl
Profiadau Tystion Jehofa
ijwex erthygl 17
Tyst yn rhoi copi o’r cylchgrawn ‘Deffrwch!’ gyda’r teitl ‘When Disaster Strikes—Steps That Can Save Lives,’ i un o’r pentrefwyr lleol oedd wedi cael ei effeithio gan y llifogydd.

Llifogydd a Ddaeth â Newyddion Da

Yn 2017, cychwynnodd deuddeg o Dystion ar siwrnai ar gwch o ardal arfordir Mosgito (Miskito) yn Nicaragwa. Enw eu cwch oedd Sturi Yamni. Dywedodd Stephen, un o’r criw, “Ein nod oedd i galonogi grŵp bach o Dystion oedd yn byw mewn ardal anghysbell, a’u helpu nhw i bregethu’r newyddion da yn eu tiriogaeth anferth.”

Gwnaeth y 12 Tyst adael Pearl Lagoon ar eu taith 200 cilomedr (125 milltir) i fyny’r Río Grande de Matagalpa. Doedd ganddyn nhw ddim syniad gymaint fyddai enw eu cwch, sy’n golygu “Newyddion Da” yn yr iaith Miskito, yn ei olygu i’r bobl oedd yn byw ar hyd yr afon. Ar ôl tua 12 awr o deithio, heb gyfrif stopio dros nos, gwnaeth y Tystion gyrraedd pen eu taith—cymuned La Cruz de Río Grande. Rhoddodd y chwe Tyst lleol groeso cynnes i’w brodyr a chwiorydd ysbrydol.

Y noson honno, dyma drychineb yn taro. Daeth storm bwerus â glaw trwm i ffynhonnell y Río Grande de Matagalpa. O fewn ychydig oriau roedd yr afon wedi gorlifo a pharhaodd lefel y dŵr i godi am ddau ddiwrnod. Roedd Neuadd y Deyrnas a llawer o gartrefi yn La Cruz o dan ddŵr. Gwnaeth y brodyr oedd yn ymweld helpu’r bobl i ddianc o’u tai. Gwnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw dreulio’r ddwy noson nesaf mewn tŷ dau-lawr oedd yn perthyn i un o’r Tystion.

Neuadd y Deyrnas La Cruz. Mae hanner yr adeilad o dan ddŵr, ac mae’r ffens tu allan i’r Neuadd bron wedi diflannu’n gyfan gwbl o dan y dŵr.

Neuadd y Deyrnas La Cruz o dan ddŵr

Ar y drydedd noson, aeth maer La Cruz at y Tystion oedd yn ymweld i ofyn am eu help. Gan mai’r Sturi Yamni oedd yr unig gwch oedd yn ddigon cryf i deithio ar hyd yr afon oedd wedi gorlifo, roedd y maer eisiau i’r criw fynd â thîm o weithwyr i lawr yr afon i helpu’r cymunedau eraill oedd wedi cael eu heffeithio. Roedd y Tystion yn hapus i helpu.

Y bore wedyn, gwnaeth tri o’r Tystion gychwyn ar y daith gyda’r tîm cymorth. “Erbyn hyn roedd yr afon yn wyllt,“ meddai Stephen wrth gofio’n ôl. “Roedd ’na goed anferth yn cael eu cario i lawr yr afon, ac oedd y dŵr yn chwyrlïo ac yn llifo’n gyflym​—tua 18 cilomedr yr awr [11 mya].” Er gwaetha’r amodau anodd, llwyddodd y cwch i gyrraedd tair cymuned.

Defnyddiodd y tri Tyst y cyfle i gysuro’r pentrefwyr​—rhywbeth roedden nhw wir ei angen. Gwnaeth y Tystion hefyd ddosbarthu copïau o rifyn 2017 y Deffrwch! gyda’r teitl amserol “When Disaster Strikes—Steps That Can Save Lives.”

Roedd trigolion y cymunedau ar hyd yr afon yn ddiolchgar iawn am yr help ymarferol ac ysbrydol a roddodd y Tystion iddyn nhw. Dywedodd rhai pentrefwyr, “Maen nhw’n fodlon helpu mewn amseroedd anodd.” Dywedodd eraill, “Maen nhw wir yn caru eu cymdogion.” Ar ôl gweld yr ymdrech a wnaeth y Tystion i helpu eu brodyr, chwiorydd, ac eraill, mae llawer o bentrefwyr wedi bod yn fwy agored i wrando ar neges gysurlon y Beibl.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu