WEDI EI DDYLUNIO?
Gallu’r Hormonau i Reoli Prosesau’r Corff
Er mwyn parhau i weithio, mae angen i’r corff gadw lefelau electrolytau fel calsiwm o fewn terfynau cul iawn yn y gwaed. Ond mae’r ganran o electrolytau rydyn ni’n cymryd i mewn i’r corff yn amrywio o ddydd i ddydd. Sut mae’r corff yn rheoli faint o electrolytau sydd yn y gwaed?
Mae corff dynol iach yn rheoli lefel yr electrolytau drwy gynhyrchu, storio, a rhyddhau hormonau i mewn i’r gwaed. Cemegion ydy hormonau sy’n cydlynu gwahanol brosesau yn y corff. Mae hyd yn oed y mymryn lleiaf o hormon yn gallu dylanwadu yn aruthrol ar y corff. Mae Encyclopedia Britannica yn dweud: “Nid proses anhrefnus ydy [rhyddhau hormonau]; mae’n broses gymhleth sy’n cael ei rheoli yn fanwl.”
Er enghraifft, mae chwarennau parathyroid yn gallu canfod newidiadau bach iawn yn lefel y calsiwm yn y gwaed. Fel arfer y mae pedair o’r chwarennau hyn yn y gwddf, pob un yn debyg i ronyn o reis o ran maint.
Pan fydd y chwarennau hyn yn canfod bod lefel calsiwm yn is nag y dylai fod, maen nhw’n rhyddhau hormon, weithiau o fewn eiliadau, sy’n dweud wrth yr esgyrn am ollwng calsiwm i’r gwaed. Mae’r hormon hwn hefyd yn atal yr arennau rhag tynnu calsiwm o’r gwaed, ac yn dweud wrth y coluddyn bach am dynnu mwy o galsiwm o’r bwyd.
Sut bynnag, os bydd gormod o galsiwm yn y gwaed, bydd chwarren arall—y thyroid—yn rhyddhau hormon gwahanol. Bydd yr hormon hwn yn gwneud i’r esgyrn amsugno mwy o galsiwm a’i storio, ac yn gwneud i’r arennau hidlo mwy o galsiwm nag arfer a chael gwared arno.
Dwy enghraifft yn unig ydy’r rhain o’r mwy na chant o hormonau y mae’r corff yn eu defnyddio i reoli gwahanol brosesau.
Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rhywbeth sydd wedi esblygu yw gallu ein hormonau i reoli prosesau yn y corff? Neu a gafodd ei ddylunio?