Sut Cefais yr Ateb i Anghyfiawnder
Gan Ursula Menne
Dydw i ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i’n dyheu am weld pawb yn cael eu trin yn deg. Arweiniodd hyn maes o law at ddedfryd o garchar yn Nwyrain yr Almaen o dan y Comiwnyddion. Ac er mawr syndod imi, dyna lle cefais yr ateb i anghyfiawnder. Gadewch imi esbonio.
CEFAIS fy ngeni ym 1922, mewn tref o’r enw Halle, tua 120 milltir (200 km) i’r de-orllewin o Berlin. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl dros 1,200 o flynyddoedd. Roedd Halle yn un o gadarnleoedd cynharaf i Brotestaniaeth. Cafodd fy chwaer Käthe ei geni ym 1923. Roedd fy nhad yn y fyddin a chantores oedd fy mam.
Fy nhad a roddodd imi’r dyhead am weld cyfiawnder. Ar ôl iddo adael y fyddin, prynodd siop. Pobl dlawd oedd y rhan fwyaf o’i gwsmeriaid, ac roedd fy nhad bob amser yn fodlon rhoi credyd iddyn nhw. Ond oherwydd hyn, yn y pen draw, fe aeth yn fethdalwr. Dylai profiad fy nhad fod wedi dangos imi nad peth syml yw brwydro yn erbyn anghyfiawnder. Ond mae delfrydiaeth pobl ifanc yn fflam anodd ei diffodd.
Gan fy mam cefais y ddawn greadigol, a hi a gyflwynodd Käthe a minnau i gerddoriaeth, canu a dawnsio. Roeddwn i’n blentyn bywiog ac roedd bywyd yn braf iawn i Käthe a minnau—hynny yw, tan 1939.
Hunllef yn Dechrau
Ar ôl gadael yr ysgol, es i ymlaen i ysgol bale lle astudiais yr Austrucktanz (dawns fynegol) a arloeswyd gan Mary Wigman. Mae’r math hwn o ddawnsio yn gofyn i’r dawnswyr fynegi eu teimladau yn y ddawns. Dechreuais beintio hefyd. Amser hapus felly oedd fy arddegau, yn llawn cyffro a dysgu. Ond ym 1939 daeth yr Ail Ryfel Byd. A chawson ni ergyd arall ym 1941, pan fu farw fy nhad o’r diciâu.
Mae rhyfel yn hunllef. Dim ond 17 oed oeddwn i pan ddechreuodd y rhyfel, ond i mi roedd y byd wedi mynd yn wallgof. Gwelais bobl a fu gynt yn hollol normal yn cael eu denu gan hysteria Natsïaidd. Yna daeth dlodi, marwolaeth a dinistr. Cafodd ein tŷ ei ddifrodi gan fomiau ac yn ystod y rhyfel collodd sawl aelod o’r teulu eu bywydau.
Pan ddaeth y rhyfel i ben ym 1945, roedd fy mam, Käthe a minnau’n dal yn byw yn Halle. Erbyn hynny roeddwn i wedi priodi a chael merch fach, ond roedd y briodas dan straen. Fe wnaethon ni wahanu, ac roeddwn i’n peintio a gweithio fel dawnswraig er mwyn cynnal fy hun a fy merch.
Ar ôl y rhyfel, rhannwyd yr Almaen yn bedair, ac roedd ein tref ni yn yr ardal a gafodd ei rheoli gan yr Undeb Sofietaidd. Felly roedd rhaid inni ddod i arfer â bywyd o dan lywodraeth gomiwnyddol. Ym 1949 daeth ein rhan ni o’r wlad, sef dwyrain yr Almaen, yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen.
Bywyd o Dan y Comiwnyddion
Bryd hynny aeth fy mam yn sâl ac roedd yn rhaid imi ofalu amdani. Cymerais swydd gyda’r llywodraeth leol. Yn y cyfamser, cwrddais â grŵp o fyfyrwyr a oedd yn gwrthwynebu anghyfiawnder a cheisio tynnu sylw ato. Er enghraifft, collodd un ffrind y cyfle i fynd i’r brifysgol oherwydd bod ei dad wedi bod yn aelod o’r blaid Natsïaidd. Doeddwn i ddim yn deall pam bod rhaid iddo ef ddioddef oherwydd rhywbeth a wnaeth ei dad. Dechreuais wneud mwy gyda’r myfyrwyr a chymryd rhan mewn protestiadau. Un tro clymais daflenni wrth y grisiau y tu allan i’r llys yn y dref.
Peth arall oedd yn tramgwyddo yn erbyn fy syniad o gyfiawnder oedd rhai o’r llythyrau y bu’n rhaid imi eu teipio fel ysgrifenyddes i’r Pwyllgor Heddwch Rhanbarthol. Ar un achlysur, am resymau gwleidyddol, penderfynodd y Pwyllgor anfon propaganda Comiwnyddol at ddyn oedrannus yng Ngorllewin yr Almaen er mwyn codi amheuon amdano. Roeddwn i mor ddig, penderfynais guddio’r parseli yn y swyddfa a chawson nhw mo’u hanfon.
Gobaith gan “y Ddynes Waethaf yn y ’Stafell”
Ym mis Mehefin 1951, daeth dau ddyn i mewn i’r swyddfa a dweud: “Rydyn ni’n dy arestio di.” Aed â fi i garchar o’r enw Roter Ochse neu’r Ych Coch. Flwyddyn yn ddiweddarach, cefais fy nghyhuddo o danseilio’r Wladwriaeth. Roedd myfyriwr wedi fy mradychu i’r Stasi, yr heddlu cudd, gan ddweud mai fi oedd yn gyfrifol am y brotest gyda’r taflenni. Ffars lwyr oedd yr achos llys oherwydd ni wnaeth neb gymryd unrhyw sylw o’r hyn a ddywedais i amddiffyn fy hun. Cefais ddedfryd o chwe blynedd yn y carchar. Yn ystod y cyfnod hwnnw es i’n sâl ac aed â fi i ysbyty’r carchar lle roedd tua 40 o ferched eraill. Pan welais wynebau’r holl bobl ddigalon hyn, cefais bwl o banig. Rhedais at y drws a dechrau ei guro â’m dyrnau.
“Beth wyt ti eisiau?” gofynnodd y swyddog.
“Alla’ i ddim aros yma!” gwaeddais. “Rhowch fi mewn cell ar fy mhen fy hun os oes angen. Ond alla’ i ddim aros yma!” Wrth gwrs chymerodd y swyddog ddim sylw. Ond ar ôl ychydig, sylwais ar ddynes oedd yn edrych yn wahanol i’r lleill. Roedd rhyw dawelwch yn ei llygaid hi. Felly eisteddais wrth ei hochr.
“Os wyt ti’n eistedd gyda mi, well iti fod yn ofalus,” meddai hi. Roeddwn i’n synnu. Yna esboniodd hi: “Mae rhai’n meddwl mai fi yw’r ddynes waethaf yn y ’stafell oherwydd fy mod i’n un o Dystion Jehofa.”
Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod bod Tystion Jehofa yn cael eu hystyried yn elynion gan y Wladwriaeth Gomiwnyddol. Ond roeddwn i’n cofio bod dau o Fyfyrwyr y Beibl, sydd yn hen enw ar y Tystion, yn arfer galw i weld fy nhad pan oeddwn i’n blentyn. Roeddwn i’n cofio fy nhad yn dweud, “Mae Myfyrwyr y Beibl yn gywir!”
Cymaint o ryddhad oedd cwrdd â’r ddynes annwyl hon, fel y dechreuais wylo. Ei henw hi oedd Berta Brüggemeier. “Plîs, dywedwch wrtha i am Jehofa,” dywedais. O hynny ymlaen treulion ni lawer o amser gyda’n gilydd yn siarad ac yn trafod y Beibl. Un o’r pethau a ddysgais oedd mai Duw cariad, cyfiawnder a heddwch yw’r gwir Dduw, Jehofa. Dysgais hefyd bod Jehofa yn mynd i ddad-wneud yr holl ddrwg y mae pobl greulon wedi ei wneud. Mae’r Beibl yn dweud: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig. . . . Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:10, 11.
Cael fy Rhyddhau a Ffoi i’r Gorllewin
Cefais fy rhyddhau ym 1956, ar ôl mwy na phum mlynedd yn y carchar. Bum diwrnod wedyn, fe wnes i ffoi’r wlad gyda fy merched, Hannelore a Sabine, i fyw yng Ngorllewin yr Almaen. Yno, fe wnaeth fy ngŵr a fi ysgaru, ac fe wnes i gwrdd â’r Tystion unwaith eto. Drwy astudio’r Beibl, sylweddolais fod angen imi newid fy mywyd er mwyn byw yn ôl safonau Jehofa. Felly dyna a wnes i, a chefais fy medyddio ym 1958.
Yn ddiweddarach, fe wnes i ail-briodi, y tro hwn ag un o Dystion Jehofa, Klaus Menne. Roedd y briodas yn hapus dros ben, a chawson ni ddau o blant, Benjamin a Tabia. Yn drist iawn, bu farw Klaus mewn damwain ryw 20 mlynedd yn ôl, ac rydw i wedi bod yn weddw ers hynny. Ond mae gobaith yr atgyfodiad yn gysur mawr imi, oherwydd rydw i’n gwybod y caiff y meirw eu hatgyfodi i fyw mewn paradwys ar y ddaear. (Salm 37:29; Actau 24:15) Mae fy mhlant i gyd yn gwasanaethu Jehofa, ac mae hynny yn gysur mawr imi hefyd.
Drwy astudio’r Beibl, rydw i wedi dysgu mai dim ond Jehofa all greu byd cyfiawn. Yn wahanol i fodau dynol, mae Jehofa yn gweld ein hamgylchiadau i gyd a’n cefndir—pethau nad yw pobl eraill bob amser yn eu gweld. Mae gwybod hyn wedi rhoi tawelwch meddwl imi, yn enwedig pan fydda’ i’n gweld pethau annheg yn digwydd. Mae Pregethwr 5:8 yn dweud: “Os wyt ti’n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau’n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i’w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn.” Yr un uchaf oll wrth gwrs yw’r Creawdwr. Dywed Hebreaid 4:13: “Does dim byd drwy’r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e’n gweld popeth yn glir. A dyma’r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.”
Edrych yn ôl Dros Bron i 90 o Flynyddoedd
Weithiau bydd pobl yn gofyn imi sut brofiad oedd byw o dan y Natsïaid a’r Comiwnyddion. Nid oedd byw o dan yr un yn hawdd. Ac roedd y ddwy ffurf hynny ar lywodraeth, fel pob llywodraeth ddynol arall, yn dangos nad oes modd i fodau dynol lywodraethu drostyn nhw eu hunain. Mae’r Beibl yn dweud yn blaen “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.”—Pregethwr 8:9.
Pan oeddwn i’n ifanc a diniwed, roeddwn i’n meddwl bod modd i fodau dynol greu llywodraeth gyfiawn. Erbyn hyn, rydw i’n gwybod yn well. Dim ond y Creawdwr all greu byd cyfiawn. A dyna y mae’n mynd i’w wneud drwy gael gwared ar bob drygioni a rhoi’r dasg o lywodraethu dros y ddaear i’w fab Iesu Grist, sydd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud amdano: “Rwyt yn caru beth sy’n iawn ac yn casáu drygioni.” (Hebreaid 1:9) Rydw i mor ddiolchgar i Dduw am roi’r cyfle imi ddod i adnabod y Brenin cyfiawn hwn, ac edrychaf ymlaen at fyw o dan ei lywodraeth gyfiawn am byth!
[Llun]
Gyda fy merched, Hannelore a Sabine, ar ôl inni gyrraedd Gorllewin yr Almaen
[Llun]
Heddiw, gyda fy mab, Benjamin, a’i wraig, Sandra