LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g18 Rhif 2 t. 13
  • 10 Natur Ddibynadwy

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 10 Natur Ddibynadwy
  • Deffrwch!—2018
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE’N EI OLYGU?
  • PAM MAE’N BWYSIG?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Gelli Di Drystio Dy Frodyr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Bod yn Onest ym Mhob Peth
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Profa Dy Fod Ti’n Ddibynadwy
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Beth Wnei Di Pan Ddaw Blwyddyn o Sychder?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
Gweld Mwy
Deffrwch!—2018
g18 Rhif 2 t. 13
Dynes ifanc yn gwneud taliad yn y banc

Mae ufuddhau i’ch rhieni fel talu dyled i’r banc. Y mwyaf dibynadwy yr ydych chi, y mwyaf y maen nhw’n ymddiried ynoch chi ac yn rhoi credyd ichi

AR GYFER POBL IFANC

10 Natur Ddibynadwy

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae pobl ddibynadwy yn cadw at y rheolau, yn dal at eu gair, ac yn dweud y gwir bob amser.

PAM MAE’N BWYSIG?

Ym mhob achos bron, mae’r rhyddid rydych chi’n ei gael yn gysylltiedig â pha mor ddibynadwy rydych chi wedi bod dros gyfnod o amser.

“Y ffordd orau o sicrhau bod eich rhieni yn ymddiried ynoch chi ydy dangos eich bod chi’n aeddfed ac yn gyfrifol, nid yn unig pan fyddwch chi gyda nhw ond hefyd pan nad ydyn nhw o gwmpas.”—Sarahi.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Daliwch ati i brofi pa fath o berson ydych chi.”—2 Corinthiaid 13:5.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Os ydych chi eisiau i bobl ymddiried mwy ynoch chi neu rydych chi eisiau adennill hyder rydych chi wedi ei golli, gall y camau canlynol eich helpu.

Byddwch yn onest. Bydd pobl yn stopio rhoi eu hyder ynoch chi unwaith ichi ddechrau dweud celwydd. Ond, pan fyddwch chi’n agored ac yn onest—yn enwedig wrth sôn am eich camgymeriadau—bydd pobl yn llawer mwy parod i ymddiried ynoch chi.

“Hawdd ydy bod yn onest pan fydd pethau’n mynd yn dda. Ond mae bod yn onest am bethau sy’n gwneud ichi edrych yn ddrwg yn mynd yn bell i godi hyder.”—Caiman.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Rydyn ni eisiau ymddwyn yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18.

Byddwch yn ddibynadwy. Yn ôl un arolwg yn yr Unol Daleithiau, roedd 78 y cant o weithwyr proffesiynol yn y maes adnoddau dynol yn dweud bod dibynadwyedd “yn un o’r tri sgìl mwyaf pwysig ar gyfer swyddi cychwynnol.” Mae dysgu bod yn ddibynadwy nawr yn mynd i fod o les ichi pan fyddwch yn oedolyn.

“Mae fy rhieni yn sylwi pan ydw i’n gyfrifol ac yn gwneud fy ngwaith o gwmpas y tŷ heb iddyn nhw orfod swnian arna’ i. Y mwyaf yn y byd yr ydw i’n gwneud pethau ar fy liwt fy hun, y mwyaf yn y byd y maen nhw’n ymddiried ynof i.”—Sarah.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Rydw i’n hyderus y byddi di’n gwrando arna i, . . . gan wybod y byddi di’n gwneud mwy na’r hyn rydw i’n ei ofyn.”—Philemon 21.

Byddwch yn amyneddgar. Yn wahanol i dwf corfforol, sy’n amlwg i bawb, yn aml iawn y mae’n rhaid i amser fynd heibio er mwyn i bobl weld twf emosiynol a meddyliol.

“Nid un weithred yn unig sy’n gyfrifol am wneud i’ch rhieni ac i eraill ymddiried ynoch chi. Ond mae’n dod yn araf deg bach drwy ddangos eich bod chi’n gyfrifol dros gyfnod o amser.”—Brandon.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Gwisgwch . . . amynedd.”—Colosiaid 3:12.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu