LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g18 Rhif 2 t. 15
  • 12 Amcanion

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 12 Amcanion
  • Deffrwch!—2018
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE’N EI OLYGU?
  • PAM MAE’N BWYSIG?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Moli Dy Greawdwr Drwy Osod Amcanion Ysbrydol
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2004
  • Bobl Ifanc, Ydych Chi’n Canolbwyntio ar Amcanion Ysbrydol?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth
    Deffrwch!—2004
  • Daliwch Ati i Wneud Cynnydd
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Deffrwch!—2018
g18 Rhif 2 t. 15
Dyn ifanc yn cynllunio adeilad

Mae gosod amcanion yn debyg i gynllunio adeilad; gydag ymdrech, gallwch droi’r cynlluniau hynny’n realiti

AR GYFER POBL IFANC

12 Amcanion

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae gosod amcanion yn fwy na chael breuddwyd—rhywbeth rydych chi’n gobeithio y bydd yn digwydd. Mae amcanion go iawn yn gofyn am gynllun, am fod yn hyblyg, ac am waith caled.

Gall amcanion fod yn rhai tymor byr (sy’n cymryd diwrnodau neu wythnosau i’w cyflawni), rhai tymor canolig (misoedd), a rhai tymor hir (blwyddyn neu fwy). Gallwch gyrraedd nod tymor hir drwy gyflawni nifer o amcanion llai ar hyd y ffordd.

PAM MAE’N BWYSIG?

Gall cyflawni amcanion godi eich hyder, dod â chi’n agosach at eich ffrindiau, a’ch gwneud chi’n hapus.

Hunanhyder: Pan fyddwch chi’n gosod amcanion bach ac yn eu cyflawni, byddwch chi’n dod yn fwy hyderus ac yn gosod amcanion anoddach. Rydych chi hefyd yn teimlo’n llawer mwy hyderus wrth wynebu problemau bob dydd—fel gwrthsefyll pwysau gan eich cyfoedion.

Ffrindiau: Mae pobl yn mwynhau treulio amser gyda rhai sy’n gosod amcanion iddyn nhw eu hunain—hynny yw, pobl sy’n gwybod beth maen nhw eisiau ac sy’n fodlon gweithio amdano. Hefyd, un o’r ffyrdd gorau o gryfhau cyfeillgarwch ydy gweithio gyda pherson arall tuag at yr un amcan.

Hapusrwydd: Pan fyddwch chi’n gosod ac yn cyflawni amcanion, byddwch chi wrth eich bodd.

“Dw i’n hoff iawn o osod amcanion. Maen nhw’n fy nghadw i’n brysur ac yn rhoi rhywbeth imi anelu ato. A phan ydych chi’n cyrraedd nod, teimlad grêt ydy edrych yn ôl a dweud, ‘Waw! Dw i wedi cyflawni’r hyn roeddwn ni’n bwriadu ei wneud!’”—Christopher.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Fydd ffermwr sy’n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a’r un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.”—Pregethwr 11:4.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Cymerwch y camau canlynol i osod ac i gyflawni amcanion.

Asesu. Gwnewch restr o’r amcanion yr hoffech chi eu cyflawni ac yna eu blaenoriaethu—gan ddewis y rhai rydych chi eisiau gweithio arnyn nhw yn gyntaf, yn ail, yn drydydd, ac yn y blaen.

Cynllunio. Ar gyfer pob amcan, gwnewch y canlynol:

  • Gosodwch ddyddiad penodedig i orffen y gwaith.

  • Gwnewch gynllun o’r camau.

  • Ceisiwch ragweld problemau, a meddyliwch am ffyrdd i’w goresgyn.

Gweithredu. Peidiwch ag aros nes i bob manylyn fod yn ei le cyn cychwyn. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Beth ydy’r peth cyntaf rydw i’n gallu ei wneud er mwyn cyrraedd fy nod?’ Yna, bwriwch iddi. Nodwch eich cynnydd ar ôl ichi gyflawni pob cam.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu