LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g19 Rhif 1 tt. 12-15
  • Bydd Heddwch yn Ffynnu o Dan Deyrnas Dduw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bydd Heddwch yn Ffynnu o Dan Deyrnas Dduw
  • Deffrwch!—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PRYD BYDD TEYRNAS DDUW YN DOD?
  • SUT BYDD TEYRNAS DDUW YN DECHRAU RHEOLI?
  • SUT GALLWCH CHI ELWA?
  • Y Gwir am Deyrnas Dduw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
Gweld Mwy
Deffrwch!—2019
g19 Rhif 1 tt. 12-15
Pobl yn mwynhau bywyd ym Mharadwys

SUT BYDD YR HER YN CAEL EI THRECHU’N LLWYR

Bydd Heddwch yn Ffynnu o Dan Deyrnas Dduw

Yn fuan iawn, bydd Duw yn sefydlu llywodraeth fydd yn rheoli dros y byd i gyd. A gyda hynny, bydd heddwch yn ffynnu, fel gwnaeth Duw ei addo yn Salm 72:7, a bydd ’na undod ym mhobman. Felly, dewch inni weld pryd a sut bydd y Deyrnas yn dechrau rheoli, a sut gallwn ni elwa ohoni.

PRYD BYDD TEYRNAS DDUW YN DOD?

Gwnaeth y Beibl ragfynegi y byddai pethau mawr yn digwydd cyn i’r Deyrnas gyrraedd. Pethau fel rhyfel, newyn, heintiau, daeargrynfeydd, a mwy o ddrygioni. Byddai’r pethau hyn yn arwydd bod y Deyrnas ar y gorwel.—Mathew 24:3, 7, 12; Luc 21:11; Datguddiad 6:2-8.

Mae proffwydoliaeth arall yn dweud: “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn byw i’w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw’n . . . anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni . . . ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw.” (2 Timotheus 3:1-4) Mae’n wir bod yr agweddau hyn wastad wedi bodoli, ond bellach maen nhw i’w gweld ym mhobman.

Dechreuodd y proffwydoliaethau hyn i gyd ddod yn wir ym 1914. A dweud y gwir, mae sawl hanesydd ac ysgrifennwr wedi sôn am gymaint gwnaeth y byd newid y flwyddyn honno. Er enghraifft, ysgrifennodd Peter Munch, haneswr o Denmarc: “Cychwyn y rhyfel ym 1914 oedd trobwynt mwyaf hanes y byd. Aethon ni o oes disglair lle oedd pethau’n mynd yn well ac yn well, i oes dychrynllyd llawn trychineb a chasineb, lle does neb yn teimlo’n saff.”

Er bod y pethau hyn i gyd yn ddrwg, mae ’na obaith. Maen nhw’n dangos bod y Deyrnas yn agos. Gwnaeth Iesu hyd yn oed sôn am ochr bositif y proffwydoliaethau hyn pan ddywedodd, “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”—Mathew 24:14.

Y newyddion da hwnnw ydy prif thema’r neges mae Tystion Jehofa yn ei rhannu. A dweud y gwir eu prif gyhoeddiad ydy’r Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Dduw. Mae’n aml yn trafod yr holl bethau hyfryd bydd Teyrnas Dduw yn eu gwneud ar gyfer y ddaear a’r bobl arni.

SUT BYDD TEYRNAS DDUW YN DECHRAU RHEOLI?

Mae ’na bedair ffaith bwysig sy’n helpu i ateb y cwestiwn hwnnw:

  1. Fydd y Deyrnas ddim yn cael ei chynrychioli gan arweinwyr y byd hwn.

  2. Fydd arweinwyr y byd ddim eisiau ildio eu grym. Ac yn ddigon ffôl, byddan nhw’n gwrthwynebu Teyrnas Dduw.—Salm 2:2-9.

  3. Bydd rhaid i Deyrnas Dduw ddinistrio’r llywodraethau sydd eisiau parhau i reoli. (Daniel 2:44; Datguddiad 19:17-21) Armagedon ydy enw’r frwydr olaf honno.—Datguddiad 16:14, 16.

  4. Bydd pawb sy’n cefnogi Teyrnas Dduw yn goroesi Armagedon, ac yn cael byw mewn byd newydd heddychlon. Mae’n debyg bydd ’na filiynau ohonyn nhw. Mae’r Beibl yn eu disgrifio fel “tyrfa enfawr.”—Datguddiad 7:9, 10, 13, 14.

    BETH BYDD Y DEYRNAS YN EI WNEUD?

    Tra oedd Iesu ar y ddaear, dangosodd beth byddai’n ei wneud fel Brenin Teyrnas Dduw. Gwnaeth ef iacháu pobl sâl ac anabl. (Mathew 4:23) Rhoddodd fwyd i filoedd. (Marc 6:35-44) Gwnaeth ef hyd yn oed reoli’r tywydd.—Marc 4:37-41.

    Iesu yn dysgu’r bobl sydd wedi casglu o’i gwmpas

    Yn fwy na dim, gwnaeth Iesu ddysgu pobl sut i fyw mewn heddwch ac undod. Drwy roi beth gwnaeth ef ei ddysgu ar waith, byddwn ni’n meithrin rhinweddau a fydd yn ein helpu ni i fyw yn hapus o dan ei Deyrnas am byth. Does na’r un athro arall yn gallu gwneud hynny! Cewch weld beth ddysgodd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd yn Mathew penodau 5-7. Mae’n werth ei darllen. Mae’r geiriau’n syml, ond mae’r neges yn bwerus ac yn cyffwrdd y galon.

SUT GALLWCH CHI ELWA?

Dywedodd Iesu mewn gweddi: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon.” (Ioan 17:3) Felly, er mwyn elwa o’r Deyrnas, mae’n rhaid dod i adnabod Duw yn gyntaf.

Mae ’na lawer o fuddion yn dod o adnabod Jehofa Dduw yn bersonol. Meddyliwch am ddau ohonyn nhw: Yn gyntaf, mae’n ein helpu ni i ddatblygu ffydd gref ynddo—ffydd sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth gadarn. Mae hynny yn ei dro yn ein gwneud ni’n hollol sicr bod Teyrnas Dduw yn real, ac y bydd hi’n rheoli cyn bo hir. (Hebreaid 11:1) Yn ail, mae ein cariad tuag at Dduw a’n cymydog yn tyfu. Am ein bod ni’n caru Duw, rydyn ni eisiau gwrando arno o wirfodd calon. Ac am ein bod ni’n caru ein cymydog, rydyn ni eisiau dilyn y rheol aur gwnaeth Iesu sôn amdani: “Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.”—Luc 6:31.

Duw sydd wedi ein creu ni, ac fel tad cariadus, mae ef eisiau’r gorau inni. Mae ef eisiau inni fyw “y bywyd sydd yn fywyd go iawn.” (1 Timotheus 6:19) Dydyn ni ddim yn byw y “bywyd go iawn” eto; i’r gwrthwyneb a dweud y gwir. Mae ’na filiynau o bobl heddiw sydd ddim yn gwneud llawer mwy na bodoli, a hynny o dan amgylchiadau anodd. Dewch inni gael cipolwg o’r “bywyd go iawn” drwy edrych ar beth sy’n disgwyl amdanon ni o dan Deyrnas Dduw.

Cipolwg O’r Bywyd Go Iawn

  • “Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau [teyrnasiad Iesu fel Brenin], ac i heddwch gynyddu . . . Boed iddo deyrnasu . . . i ben draw’r byd!”—Salm 72:7, 8, 13, 14.

  • “[Mae Duw] yn dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan; mae’n malu’r bwa ac yn torri’r waywffon.”—Salm 46:9.

  • “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.

  • “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. . . . Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”—Eseia 65:21, 22.

  • “Mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. . . . Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:3, 4.

Pobl yn mwynhau bywyd ym Mharadwys

Pan fydd y Deyrnas yn rheoli bydd pawb yn hollol saff a diogel, a bydd ’na ddigonedd o fwyd

Y PRIF BWYNT

MAE DYSGEIDIAETHAU IESU YN RHOI’R NERTH INNI I WNEUD BETH SY’N IAWN. BYDD PAWB SY’N GWRANDO ARNO YN BYW MEWN HEDDWCH AC UNDOD O DAN EI LYWODRAETH FYD-EANG

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu