LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g19 Rhif 2 tt. 12-13
  • Gwerth Arweiniad gan Oedolion

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwerth Arweiniad gan Oedolion
  • Deffrwch!—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE ARWEINIAD GAN OEDOLION YN EI GYNNWYS?
  • PWYSIGRWYDD ARWEINIAD GAN OEDOLION
  • SUT I ROI ARWEINIAD
  • Rieni—Helpwch Eich Plant i Garu Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Deffrwch!—2019
g19 Rhif 2 tt. 12-13
Dynes yn dangos ei hen luniau i eneth

GWERS 5

Gwerth Arweiniad Gan Oedolion

BETH MAE ARWEINIAD GAN OEDOLION YN EI GYNNWYS?

Mae plant angen arweiniad a chyngor gan oedolion. A chithau’n rhiant, chi sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r rôl hon; y gwir yw, mae’n ddyletswydd. Ond, gall oedolion eraill helpu i arwain y plant hefyd.

PWYSIGRWYDD ARWEINIAD GAN OEDOLION

Mewn sawl gwlad, dydy plant ddim yn treulio llawer o amser gydag oedolion. Ystyriwch:

  • Mae plant yn treulio oriau maith yn yr ysgol, lle mae llawer mwy o ddisgyblion nag athrawon ac oedolion eraill.

  • Mae rhai pobl ifanc yn mynd adref o’r ysgol i dŷ gwag gan fod eu rhieni’n dal yn y gwaith.

  • Yn ôl un astudiaeth, mae plant rhwng 8 a 12 mlwydd oed yn yr Unol Daleithiau yn treulio ar gyfartaledd tua chwe awr bob dydd ar gyfryngau adloniant.a

Dywed y llyfr Hold On to Your Kids: “Dydy pobl ifanc ddim yn troi at eu mamau, eu tadau, eu hathrawon, nac oedolion cyfrifol eraill er mwyn cael eu hyfforddi, eu siapio, a’u harwain, ond yn troi at . . . eu cyfoedion.”

SUT I ROI ARWEINIAD

Treuliwch amser gyda’ch plant.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—Diarhebion 22:6.

Mae’n naturiol i blant barchu arweiniad eu rhieni. Dywed arbenigwyr fod plant, hyd yn oed arddegwyr, yn dal i werthfawrogi cyngor eu rhieni yn fwy na chyngor eu cyfoedion. “Mae rhieni yn parhau i fod y dylanwad mwyaf ar agweddau ac ymddygiad eu plant o’u glasoed nes eu bod yn oedolion ifanc,” meddai Dr Laurence Steinberg yn y llyfr You and Your Adolescent. Ychwanega fod “arddegwyr eisiau gwybod eich barn ac yn gwrando ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cyfaddef hynny nac yn cytuno â phopeth.”

Manteisiwch ar dueddiad naturiol eich plant i’ch parchu. Treuliwch amser gyda nhw a sôn wrthyn nhw am eich safbwyntiau, eich gwerthoedd, a’ch profiadau.

Trefnwch gwmni da iddyn nhw.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.”—Diarhebion 13:20.

A fedrwch chi feddwl am oedolyn a fydd yn esiampl dda i’ch arddegwr? Beth am drefnu i’r person hwnnw dreulio amser gyda’ch plentyn? Wrth gwrs, ni ddylech esgeuluso’ch cyfrifoldeb o fod yn rhiant. Ond gall anogaeth rhywun dibynadwy na fyddai byth yn niweidio’ch plentyn ychwanegu at yr hyfforddiant rydych chi’n ei roi. Dywed y Beibl fod Timotheus, hyd yn oed pan oedd yn oedolyn, wedi elwa ar fod yn ffrind i’r apostol Paul, ac fe wnaeth Paul elwa ar gyfeillgarwch Timotheus hefyd.—Philipiaid 2:20, 22.

Heddiw, mae ’na lawer o deuluoedd sydd ddim yn byw gyda’i gilydd o dan yr un to, ac weithiau mae teidiau, neiniau, a’r teulu estynedig yn byw mewn gwahanol rannau o’r byd. Os mai dyna yw eich sefyllfa chi, ceisiwch greu cyfleoedd i’ch arddegwyr ddysgu oddi wrth oedolion sydd â’r rhinweddau rydych chi eisiau i’ch plant eu mabwysiadu.

a Darganfyddodd yr astudiaeth fod rhai arddegwyr yn treulio bron i naw awr y dydd ar gyfryngau adloniant. Nid yw’r ystadegau hyn am blant ac arddegwyr yn cynnwys amser a dreuliwyd ar lein yn yr ysgol neu’n gwneud gwaith cartref.

Dynes yn dangos ei hen luniau i eneth

HYFFORDDWCH NAWR

Mae plentyn sy’n gofyn am arweiniad gan oedolion yn fwy tebygol o ddangos doethineb ac aeddfedrwydd pan fydd yn hŷn

Arwain Drwy Esiampl

  • Ydw i’n esiampl dda i fy mhlant?

  • Ydy fy mhlant yn gweld fy mod innau hefyd yn ceisio cyngor gan rai mwy profiadol?

  • Ydw i’n dangos bod fy mhlant yn bwysig imi drwy dreulio amser gyda nhw?

Ein Profiad Ni

“Weithiau pan fydda’ i yng nghanol rhywbeth, bydd fy merch yn dweud ei bod hi eisiau siarad. Dw i o hyd yn sicrhau fy mod i’n gwrando arni, hyd yn oed os oes rhaid imi ddweud wrthi am aros am funud nes galla’ i roi fy holl sylw iddi. Mae fy ngwraig a minnau yn ceisio gosod esiampl dda er mwyn iddi weld ein bod ni’n byw yn unol â’r egwyddorion rydyn ni’n eu dysgu iddi hi.”—David.

“Pan anwyd ein merch, penderfynodd fy ngŵr a minnau y byddwn i’n aros gartref i’w magu yn hytrach na gweithio. Dw i ddim yn difaru’r penderfyniad hwnnw. Mae’n bwysig iawn treulio cymaint o amser â phosib gyda phlentyn er mwyn iddo ef neu hi gael arweiniad cywir. Yn bwysicach fyth, mae’n dangos i’ch plentyn eich bod chi wir yn gofalu amdanyn nhw.”—Lisa.

TREULIO AMSER GYDAG OEDOLION

“Mae fy mhlant wedi tyfu i fyny ym mysg oedolion o wahanol oedrannau a chefndiroedd, ac mae gwrando ar eu profiadau wedi helpu fy mhlant i ddeall bywyd. Er enghraifft, roedden nhw’n syfrdan pan glywon nhw gan fy nain mai ei theulu hi oedd y cyntaf yn yr ardal i gael golau trydan. Pan oedd hi’n eneth fach byddai pobl o’r ardaloedd cyfagos yn dod i’r tŷ dim ond i sefyll yn y gegin i weld y golau’n cael ei droi ymlaen a’i ddiffodd. Achosodd y stori honno i fy mhlant weld pa mor wahanol oedd bywyd bryd hynny. Roedd dysgu am eu hen nain fel hyn yn eu helpu i’w pharchu hi a rhai hŷn eraill. Pan fydd plant yn treulio mwy o amser gydag oedolion—a llai gyda’u cyfoedion—maen nhw’n gallu gweld bywyd o safbwynt gwahanol.”—Maranda.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu