LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g21 Rhif 2 tt. 4-6
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?
  • Deffrwch!—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Sut Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn Effeithio Arna I?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 1: A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 2: Dysgu Pobl Ifanc i Fod yn Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Deffrwch!—2021
g21 Rhif 2 tt. 4-6
Ffrindiau ar draws y byd yn cadw cysylltiad dros fideo-gynadledda.

Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?

Diolch i decstio, e-byst, fideo-gynadledda, a chyfryngau cymdeithasol, gall dau berson gyfathrebu’n hawdd, hyd yn oed os ydyn nhw’n byw ar gyfandiroedd gwahanol. Iddyn nhw, mae technoleg yn ddefnyddiol.

Ond mae rhai pobl sy’n cadw cysylltiad â’u ffrindiau yn bennaf drwy dechnoleg, yn tueddu i . . .

  • ddangos llai o empathi tuag at eu ffrindiau.

  • teimlo’n wag ac yn unig.

  • canolbwyntio’n fwy ar eu hunain nag ar eraill.

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

Merch yn ei harddegau yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol yn hwyr yn y nos. Mae’r post mae hi’n edrych arno wedi cael ei weld 723,000 o weithiau.

EMPATHI

Er mwyn dangos empathi, mae’n rhaid inni arafu a meddwl am sut mae’r person arall yn teimlo. Gall hyn fod yn anodd os ydyn ni’n brysur yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn ateb pentwr o negeseuon.

Ymhen amser, os ydy technoleg yn eich rheoli chi, gall ateb negeseuon eich ffrindiau deimlo fel tasg arall ar eich rhestr o bethau i’w gwneud. Yn y pen draw, eich nod yw gwagio’ch mewnflwch yn hytrach na helpu ffrind sydd mewn angen.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n cydymdeimlo â’ch ffrindiau pan fyddwch chi’n cyfathrebu gan ddefnyddio technoleg?—1 PEDR 3:8.

TEIMLO’N WAG

Mae rhai ymchwilwyr wedi sylwi bod pobl yn teimlo’n waeth ar ôl treulio amser ar gyfryngau cymdeithasol. Daethon nhw i’r casgliad bod gweld beth mae eraill wedi ei wneud yn gallu gwneud i rywun deimlo “yn anfodlon â’i fywyd.”

Ar ben hynny, mae edrych ar luniau cyffrous mae eraill wedi eu postio yn gallu arwain at gymariaethau negyddol. Wedi’r cwbl, mae’n gallu ymddangos bod pawb arall yn cael amser da, tra ydych chi’n byw bywyd diflas.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, sut gallwch chi osgoi cymharu eich hun ag eraill?—GALATIAID 6:4.

AGWEDD HUNANOL

Sylwodd un athrawes fod gan rai o’i myfyrwyr agwedd hunanol, a’u bod nhw ond eisiau bod yn ffrindiau â phobl oedd yn gwneud pethau drostyn nhw.a Mae perthynas o’r fath braidd yn unochrog! Gall rhywun ddechrau gweld ei ffrindiau fel apiau—yn gallu eu defnyddio pan fydd angen ond wedyn eu hanwybyddu.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy’r hyn rydych chi’n ei bostio ar lein yn awgrymu eich bod chi’n gystadleuol neu’n hunanol?—GALATIAID 5:26.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

YSTYRIWCH SUT RYDYCH CHI’N DEFNYDDIO TECHNOLEG

Pan fydd technoleg yn eich helpu yn hytrach na’ch rheoli, bydd yn ei gwneud hi’n haws cadw cysylltiad â’ch ffrindiau, a hyd yn oed closio atyn nhw.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae cariad yn rhoi y person arall yn gyntaf.”—1 CORINTHIAID 13:4, 5.

Nodwch y pethau rydych chi eisiau eu rhoi ar waith, neu ysgrifennwch eich syniadau eich hun.

  • Cael mwy o sgyrsiau wyneb yn wyneb (yn hytrach na dibynnu ar decstio neu e-byst yn unig)

  • Cadw’r ffôn (neu’i dewi) wrth sgwrsio ag eraill

  • Treulio llai o amser yn sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol

  • Gwrando’n well

  • Cysylltu â ffrind sy’n mynd drwy gyfnod anodd

a Yn y llyfr Reclaiming Conversation.

GOFYNNWCH I CHI’CH HUN . . .

  • Oes gen i ffrindiau go iawn dw i’n eu caru ac sy’n fy ngharu i?

  • Pa mor aml mae galwad ffôn neu neges yn torri ar draws sgwrs dw i’n ei chael wyneb yn wyneb â ffrind?

  • Ydy’r lluniau a’r sylwadau dw i’n eu postio ar gyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r argraff fy mod i’n hunanol?

  • Sut ydw i’n teimlo ar ôl sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol am gyfnod?

  • Pa newidiadau galla i eu gwneud fel bod technoleg ddim yn fy rhwystro rhag gwneud ffrindiau go iawn?

    EGWYDDOR O’R BEIBL: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—PHILIPIAID 2:4.

Emily.

“Mae’n gofyn am amser ac ymdrech i fod yn ffrind i rywun, felly efallai mai dim ond ychydig fydd gynnoch chi. Nid cael llwyth o ffrindiau sy’n bwysig, ond cael ychydig o ffrindiau da. Mae ffrindiau go iawn yn edrych ar ôl ei gilydd.”​—EMILY

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu