Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Plant?
Efallai bydd hi’n anodd i oedolion dysgu sut i ddefnyddio dyfeisiau neu apiau newydd. Ond i blant, mae technoleg wastad wedi bod yn rhan o’u bywydau, felly mae’n hawdd iawn iddyn nhw ei deall.
Ar yr un pryd, mae rhai wedi sylwi bod pobl ifanc sy’n treulio llawer o amser ar lein yn dueddol o . . .
ddod i ddibynnu ar eu dyfeisiau.
cael eu seiberfwlio, neu fwlio eraill ar lein.
gweld pornograffi, hyd yn oed yn anfwriadol.
BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?
DIBYNIAETH
Mae’n hawdd mynd yn gaeth i rai gweithgareddau ar-lein fel chwarae gemau. Dydy hynny ddim yn ddamwain. “Mae’r apiau ar ein ffonau wedi eu dylunio i’n cadw ni ar ein ffonau,” meddai’r llyfr Reclaiming Conversation. Mae busnesau yn gwneud arian pan ydyn ni’n gwylio hysbysebion, felly yr hiraf rydyn ni’n defnyddio apiau sy’n eu cynnwys, y mwyaf o arian maen nhw’n ei wneud.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy’ch plant i weld yn styc wrth eu dyfeisiau? Sut gallwch chi eu helpu nhw i wneud defnydd gwell o’u hamser?—EFFESIAID 5:15, 16.
SEIBERFWLIO
Mae rhai pobl yn fwy creulon ar lein ac yn llai sensitif i deimladau pobl eraill. Gall agweddau felly arwain at fwlio.
Mae rhai pobl yn gas ar lein er mwyn trio cael mwy o sylw a bod yn boblogaidd. Neu gall eraill ddechrau teimlo fel petasen nhw’n cael eu bwlio ar ôl ffeindio allan eu bod nhw heb gael eu cynnwys mewn rhyw ffordd—er enghraifft, o weld na chawson nhw eu gwahodd i barti.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy’ch plant chi’n gwrtais ar lein? (Effesiaid 4:31) Sut maen nhw’n delio â’r teimlad eu bod nhw’n cael eu gadael allan?
PORNOGRAFFI
Mae’n hawdd iawn cael hyd i bethau anweddus ar y we. Er bod ’na osodiadau sy’n helpu rhieni i reoli beth mae eu plant yn ei weld, dydyn nhw ddim wastad yn gweithio.
Gall secstio—hynny ydy, anfon neu dderbyn lluniau anweddus—fod yn erbyn y gyfraith. Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar gyfreithiau lleol ac oedran y rhai o dan sylw, gall pobl sy’n secstio gael eu cyhuddo o ledaenu pornograffi plant.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Sut gallwch chi helpu eich plant i wrthod y temtasiwn i edrych ar neu anfon lluniau anweddus ar lein?—EFFESIAID 5:3, 4.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
HYFFORDDWCH EICH PLANT
Er bod defnyddio technoleg yn dod yn naturiol i bobl ifanc, maen nhw dal angen arweiniad. Mae’r llyfr Indistractable yn dweud bod rhoi ffôn clyfar neu ddyfais arall i’ch plant, cyn bod ganddyn nhw’r sgiliau i’w defnyddio’n iawn “yr un mor anghyfrifol â gadael iddyn nhw neidio i mewn i bwll heb iddyn nhw wybod sut i nofio.”
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—DIARHEBION 22:6.
Nodwch yr awgrymiadau hoffech chi eu rhoi ar waith, neu ysgrifennwch eich syniadau eich hun.
Trafod sut i ymddwyn yn addas ac yn gwrtais ar lein gyda fy mhlant
Helpu fy mhlant i ddelio â’r teimlad o gael eu gadael allan
Gwneud popeth alla i i amddiffyn fy mhlant rhag pethau anweddus ar lein
Checio ffôn fy mhlant bob hyn a hyn
Gosod terfyn ar amser sgrin bob dydd
Gwahardd dyfeisiau yn ystafelloedd gwely fy mhlant dros nos
Gwahardd dyfeisiau wrth y bwrdd bwyd