LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g21 Rhif 2 tt. 10-12
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?
  • Deffrwch!—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Sut i Adael Gwaith yn y Gweithle
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Neilltuwch Amser i Fod Gyda’ch Gilydd
    Help ar Gyfer y Teulu
  • “Bydded Priodas Mewn Parch”
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Gweld Mwy
Deffrwch!—2021
g21 Rhif 2 tt. 10-12
Dyn mewn maes awyr yn siarad â’i wraig dros alwad fideo. Mae hi gartref.

Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?

Pan fydd yn cael ei defnyddio’n iawn, gall technoleg gryfhau’r berthynas rhwng gŵr a gwraig. Er enghraifft, mae’n gallu helpu cwpl i gadw cysylltiad yn ystod y dydd.

Ond, mae rhai cyplau yn camddefnyddio technoleg, ac felly . . .

  • maen nhw’n gwastraffu amser gallen nhw fod wedi ei dreulio gyda’i gilydd.

  • mae gwaith yn dod i’r cartref heb fod angen.

  • maen nhw’n dechrau amau ei gilydd, neu hyd yn oed yn troi’n anffyddlon.

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

Gŵr a gwraig ar eu ffonau yn eu gwely yn hwyr yn y nos.

AMSER GYDA’CH GILYDD

Dywedodd gŵr o’r enw Michael: “Weithiau, pan fydd fy ngwraig a minnau gyda’n gilydd, mae fel petasai hi ddim yna. Mae hi’n brysur yn edrych ar ei ffôn, ac yn dweud ‘Dw i heb gael cyfle i checio tan rŵan.’” Dywedodd gŵr o’r enw Jonathan bod cyplau yn y fath sefyllfa “yn gallu bod yn yr un lle, ond eto’n teimlo’n bell i ffwrdd.”

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Pa mor aml mae galwad ffôn neu neges yn amharu ar eich amser fel cwpl?—EFFESIAID 5:33.

GWAITH

Mae angen i rai pobl fod ar gael ddydd a nos oherwydd natur eu gwaith seciwlar. Ond gall hyd yn oed pobl mewn swyddi sydd ddim yn gofyn gymaint, dreulio gormod o amser yn gweithio ar ôl iddyn nhw ddod adref. Mae gŵr o’r enw Lee yn cyfaddef: “Mae’n anodd peidio checio pob galwad ffôn neu neges dw i’n gael gan gwaith pan dw i’n treulio amser gyda fy ngwraig.” Mae gwraig o’r enw Joy yn dweud: “Dw i’n gweithio o adref, felly mae’n anodd gwybod pryd i stopio. Mae’n gofyn am ymdrech i fod yn gytbwys.”

RHYWBETH I’W YSTYRIED: A ydych chi’n rhoi eich sylw llawn i’ch cymar pan fydd ef neu hi yn siarad â chi?—LUC 8:18.

FFYDDLONDEB

Mae llawer yn dweud eu bod nhw wedi ffraeo gyda’u cymar am fod un yn amau beth mae’r llall wedi ei bostio ar lein. Mae rhai hyd yn oed wedi cyfaddef eu bod nhw’n cuddio beth maen nhw’n ei bostio oddi wrth eu cymar.

Am reswm da felly, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu galw yn “dir peryglus” i gyplau priod, sy’n ei gwneud hi’n haws iddyn nhw fod yn anffyddlon. Dydy hi ddim yn syndod fod cyfreithwyr ysgariad yn dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn chwalu llawer o briodasau heddiw.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydych chi’n cuddio negeseuon gan rywun o’r rhyw arall oddi wrth eich cymar?—DIARHEBION 4:23.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

BLAENORIAETHU

Os dydy rhywun ddim yn bwyta, fyddan nhw ddim yn cadw’n iach. Mewn ffordd debyg, os dydy rhywun ddim yn treulio digon o amser gyda’i gymar, fydd y briodas ddim yn un iach.—Effesiaid 5:28, 29.

EGWYDDOR O’R BEIBL: ‘Dewis y peth gorau i’w wneud bob amser.’—PHILIPIAID 1:10.

Trafodwch pa rai o’r awgrymiadau isod hoffech chi eu rhoi ar waith, neu ysgrifennwch eich syniadau eich hunain o sut i rwystro technoleg rhag amharu ar eich priodas.

  • Bwyta o leiaf un pryd o fwyd gyda’n gilydd bob diwrnod

  • Neilltuo amser i beidio â defnyddio ein dyfeisiau

  • Trefnu dêt neu amser arbennig arall gyda’n gilydd

  • Troi ein dyfeisiau i ffwrdd dros nos a chadw nhw allan o’n hystafell wely

  • Neilltuo chwarter awr bob dydd i siarad â’n gilydd heb unrhyw ddyfeisiau o gwmpas

  • Stopio defnyddio’r we ar amser penodol bob diwrnod

CWESTIYNAU I GYPLAU EU TRAFOD

Ar ôl ichi ystyried y cwestiynau canlynol ar wahân, trafodwch eich atebion gyda’ch gilydd.

  • Ym mha ffyrdd gallech chi ddefnyddio technoleg i gryfhau eich priodas?

  • Yn eich barn chi, i ba raddau mae technoleg yn amharu ar eich amser gyda’ch gilydd?

  • Ym mha ffyrdd byddech chi’n hoffi gwella yn hyn o beth?

  • Ydych chi’n dod â’ch gwaith yn ôl gartref yn ddiangen? A fyddai eich cymar yn cytuno â’ch ateb?

  • Sut gallwch chi fod yn rhesymol o ran faint o amser a sylw rydych chi’n eu disgwyl gan eich cymar?

    EGWYDDOR O’R BEIBL: “Ddylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.”—1 CORINTHIAID 10:24.

Jason ac Alexandra.

“Dw i’n gweithio o adref, felly dw i’n trio stopio gweithio ar amser penodol. Dw i hefyd yn troi fy e-byst i ffwrdd fel mod i’n gallu gwneud pethau defnyddiol ar fy ffôn, fel edrych ar yr amser, heb i waith dynnu fy sylw.”—JASON, GYDA’I WRAIG, ALEXANDRA.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu