LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g21 Rhif 2 tt. 13-15
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Gallu i Ddysgu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Gallu i Ddysgu?
  • Deffrwch!—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Beth Ddylwn i Wybod am Amldasgio?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Sut Galla i Ddysgu i Ganolbwyntio?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Yn y Rhifyn Hwn
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Deffrwch!—2021
g21 Rhif 2 tt. 13-15
Dyn yn gwylio tiwtorial wrth goginio.

Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Gallu i Ddysgu?

Mae pobl yn dysgu o hyd—p’un ai ar gyfer yr ysgol, y gwaith, neu am resymau eraill. Gall technoleg helpu. Dydy hi erioed wedi bod mor hawdd cael gafael ar gymaint o wybodaeth, a hynny heb orfod gadael eich cartref neu hyd yn oed codi o’ch cadair.

Er hynny, mae llawer sy’n defnyddio technoleg yn aml yn gweld eu bod nhw’n . . .

  • cael trafferth canolbwyntio wrth ddarllen.

  • cael trafferth canolbwyntio ar un peth ar y tro.

  • diflasu’n hawdd pan maen nhw ar eu pennau eu hunain.

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

Merch yn ei harddegau yn trio gwneud mwy nag un peth ar unwaith. Mae hi’n teipio neges ar ei ffôn clyfar, yn cael sgwrs dros fideo gyda ffrind, ac yn defnyddio cyfrifiadur a gwerslyfr i astudio.

DARLLEN

Does gan rai ddim llawer o amynedd darllen erthygl neu lyfr cyfan, felly maen nhw’n darllen drosto yn sydyn.

Efallai bod bwrw golwg sydyn dros rywbeth yn iawn pan fydd angen ateb sydyn i gwestiwn. Ond dydy hynny ddim yn helpu pan fydd angen deall pwnc yn iawn.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Pa mor dda ydych chi am ddarllen darnau hir o destun? Sut gall gwneud hynny eich helpu i ddysgu mwy?—DIARHEBION 18:15.

CANOLBWYNTIO

Mae rhai yn cymryd bod technoleg yn eu galluogi i wneud dau beth ar unwaith—er enghraifft, tecstio ffrindiau wrth astudio. Ond pan mae eu meddwl ar ddau beth, allan nhw ddim gwneud yr un dasg yn dda.

Er bod canolbwyntio yn gofyn am hunanddisgyblaeth, mae’n werth yr ymdrech. “’Dych chi’n gwneud llai o gamgymeriadau, a does dim gymaint o bwysau arnoch chi,” meddai Grace, sydd yn ei harddegau. “Dw i wedi dysgu bod hi’n well canolbwyntio ar un peth ar y tro, ac osgoi’r temtasiwn i wneud mwy nag un peth ar unwaith.”

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy technoleg yn ei gwneud hi’n anoddach ichi ddeall a chofio beth rydych chi’n ei ddysgu?—DIARHEBION 17:24.

LLONYDD

Dydy rhai pobl ddim yn hoffi bod ar eu pennau eu hunain, felly maen nhw’n troi at dechnoleg i lenwi’r bwlch. Mae dynes o’r enw Olivia yn cyfaddef: “Dw i’n diflasu o fewn chwarter awr os nad yw i’n checio fy ffôn neu fy nhabled, neu roi’r teledu ymlaen.”

Ond, mae cyfnodau distaw ar eich pen eich hun yn gyfle gwerthfawr ichi feddwl yn ddwfn am bethau. Mae’n rhan hanfodol o ddysgu, nid yn unig ar gyfer pobl ifanc ond hefyd ar gyfer oedolion.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydych chi’n defnyddio’r cyfnodau hynny pan fyddwch chi ar eich pen eich hun i feddwl?—1 TIMOTHEUS 4:15.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

YSTYRIWCH EICH DEFNYDD O DECHNOLEG

Ym mha ffyrdd gallwch chi ddefnyddio technoleg i’ch helpu chi i ddysgu? Sut gall technoleg amharu ar eich gallu i ganolbwyntio a dysgu?

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dal yn dynn yn beth wyt ti’n ddysgu, paid gollwng gafael.”—DIARHEBION 4:13.

GOFYNNWCH I CHI’CH HUN . . .

  • Ydw i’n cael trafferth canolbwyntio wrth ddarllen darnau hir o destun ar sgrin? Os felly, beth sydd fwyaf tebygol o dynnu fy sylw?

  • Beth galla i ei wneud i leihau neu hyd yn oed gael gwared o’r pethau hynny sy’n tynnu fy sylw?

Awgrym: Darllenwch ddarnau byr i ddechrau, a darllen darnau hirach fesul tipyn. Darllenwch yn uchel er mwyn cadw eich sylw ar y deunydd.

  • Pa newidiadau galla i eu gwneud fel bod gen i ddigon o amser i feddwl a myfyrio ar beth dw i newydd ddarllen?

Awgrym: Defnyddiwch ddeg munud olaf cyfnod astudio i adolygu beth rydych chi newydd ddysgu.

  • Pryd ydw i fwyaf tebygol o drio gwneud mwy nag un peth ar unwaith?

  • Sut galla i wneud hi’n haws imi ganolbwyntio ar un peth ar y tro?

Awgrym: Cadwch y lle rydych chi’n astudio yn glir o bethau allai dynnu eich sylw, fel eich bod chi’n gallu canolbwyntio ar beth rydych chi’n ei wneud.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn.”—DIARHEBION 4:5.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu