LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g25 Rhif 1 tt. 12-13
  • Bod yn Hael

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bod yn Hael
  • Deffrwch!—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE’N BWYSIG?
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • Mae Pobl Hael yn Bobl Hapus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2025
  • Dod yn Hapusach Drwy Roi i Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Perthynas â Theulu a Ffrindiau
    Deffrwch!—2019
Deffrwch!—2025
g25 Rhif 1 tt. 12-13
Teulu wrth y bwrdd y tu allan i’w tŷ syml, yn rhannu pryd o fwyd yn hapus gyda ffrind.

YMDOPI Â’R CYNNYDD MEWN PRISIAU

Bod yn Hael

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu am bopeth sydd ei angen, efallai byddwch chi’n teimlo nad oes modd yn y byd ichi fod yn hael wrth bobl eraill. Ond mae’n bosib y bydd rhoi’n hael i eraill yn eich helpu chi i ymdopi ag anawsterau economaidd. Gallwch fod yn gynnil ac yn hael.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae bod yn hael—hyd yn oed mewn ffyrdd syml—yn ein gwneud ni’n hapus ac yn codi ein hunan-barch. Yn wir, mae ymchwil wedi dangos bod rhoi i eraill yn dda i’n hiechyd corfforol ac emosiynol. Er enghraifft, mae’n gallu lleihau pryder, straen, pwysau gwaed, a hyd yn oed poen. Gall hefyd wella ein cwsg.

“Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Actau 20:35.

Drwy roi i eraill, yn ariannol neu mewn ffyrdd eraill, mae’n debyg y bydd yn haws inni dderbyn help pan fydd angen. Mae Howard, sy’n byw yn Lloegr, yn dweud: “Drwy edrych am ffyrdd i fod yn hael a helpu eraill, mae fy ngwraig a minnau’n teimlo ein bod ni’n llai o faich pan fydd angen help arnon ninnau.” Wrth gwrs, dydy pobl sydd â chalon hael ddim yn disgwyl cael pethau’n ôl. Ond bydd ganddyn nhw ffrindiau go iawn sydd yn fwy na hapus i’w helpu pan fydd angen.

“Parhewch i roi, a bydd pobl yn rhoi i chithau.”—Luc 6:38.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Rhannwch yr hyn sydd gynnoch chi. Er bod arian yn brin, mae’n debyg bod gynnoch chi rywbeth y gallwch ei rannu, hyd yn oed os nad yw’n fwy na phryd o fwyd syml. Mae Duncan a’i deulu, sy’n byw yn Uganda, yn eithaf tlawd, ond mae ganddyn nhw agwedd hael. Dywed Duncan: “Ar ddydd Sul, mae fy ngwraig a minnau’n gwahodd rhywun i ddod aton ni am bryd o fwyd syml. Rydyn ni wrth ein boddau’n treulio amser gyda phobl eraill.”

Wrth gwrs, mae angen bod yn rhesymol wrth roi i bobl eraill. Fyddwch chi ddim eisiau creu problemau diangen i’ch teulu eich hun.—Job 17:5.

Rhowch gynnig ar hyn: Cynigiwch bryd o fwyd syml neu ddiod i rywun. Os oes gynnoch chi bethau nad oes mo’u hangen bellach, beth am eu rhoi i ffrindiau neu gymdogion a allai eu defnyddio a’u gwerthfawrogi?


Rhowch mewn ffyrdd eraill. Mae rhai o’r anrhegion gorau yn costio dim. Er enghraifft, gallwn ni roi o’n hamser a’n sylw drwy wneud pethau i helpu eraill. Gall geiriau caredig fod yn anrheg! Felly dywedwch wrth eraill faint rydych chi’n eu gwerthfawrogi neu’n eu caru.

Rhowch gynnig ar hyn: Helpwch eraill gyda siopa, gyda jobsys bach yn y tŷ, neu gyda phethau sydd angen eu trwsio. Anfonwch gerdyn neu neges destun at ffrindiau i ddweud eich bod chi’n meddwl amdanyn nhw.

Pan fyddwch chi’n chwilio am ffyrdd i fod yn hael, byddwch chi’n agor y drws i lawer o bethau da.

“Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu’r hyn sydd gynnoch chi ag eraill.”—Hebreaid 13:16.

Cwpl priod yn helpu dynes mewn oed yn yr ardd. Mae hi’n cynnig diod boeth wrth iddyn nhw gasglu dail.
Trey.

“Er bod y fflat yn fach, rydyn ni’n mwynhau coginio i’n ffrindiau a chael bwyd gyda’n gilydd. Rydyn ni wir yn hapus i gefnogi ein ffrindiau. Weithiau gallwn ni roi arian. Ond gan amlaf, rydyn ni’n rhoi ein hamser. Dro ar ôl tro rydyn ni wedi gweld o’n profiad ein hunain bod mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Trey, Israel.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu