LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 3
  • Y Bobl Gyntaf

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Bobl Gyntaf
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Pam Rydyn Ni’n Heneiddio a Marw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Gadael Gardd Eden
    Storïau o’r Beibl
  • Bywyd yn Troi’n Anodd
    Storïau o’r Beibl
  • Sut Roedd Bywyd ym Mharadwys?
    Gwrando ar Dduw a Byw am Byth
Storïau o’r Beibl
my stori 3
Adam and Eve in the garden of Eden

STORI 3

Y Bobl Gyntaf

BETH sy’n wahanol yn y llun hwn? Ie, rwyt ti’n iawn; y mae pobl i’w gweld yn yr ardd nawr. Nhw oedd y bobl gyntaf ar y ddaear. Pwy a wnaeth y bobl hyn? Duw. Wyt ti’n gwybod beth yw enw Duw? Jehofa yw ei enw. Enw’r dyn cyntaf oedd Adda ac enw’r ddynes gyntaf oedd Efa.

Dyma sut y gwnaeth Duw Adda. Gan ddefnyddio ychydig o bridd, fe luniodd Duw gorff perffaith, corff dyn. Anadlodd i mewn i drwyn y dyn ac yna daeth Adda’n fyw.

Roedd gan Jehofa Dduw waith i Adda ei wneud. Dywedodd wrth Adda am roi enwau ar yr anifeiliaid i gyd. Mae’n debyg fod Adda wedi gwylio’r anifeiliaid am amser hir fel y gallai ddewis yr enwau gorau i’w rhoi arnyn nhw. Ac wrth iddo astudio’r anifeiliaid, fe sylwodd Adda ar rywbeth. Wyt ti’n gwybod beth oedd hynny?

Gwelodd Adda fod gan bob anifail gymar. Roedd eliffantod gwryw a benyw, ac roedd llewod a llewesau. Ond doedd gan Adda neb i fod yn gymar iddo. Felly achosodd Jehofa i Adda gysgu’n drwm a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o’i asennau a’i defnyddio i wneud gwraig iddo.

Pan welodd Adda ei wraig roedd ar ben ei ddigon! A dychmyga pa mor hapus oedd Efa o gael byw mewn gardd mor brydferth! Roedden nhw’n medru edrych ymlaen at gael plant a byw gyda’i gilydd yn hapus ar y ddaear.

Roedd Jehofa yn dymuno i Adda ac Efa fyw am byth a gwneud yr holl ddaear mor brydferth â gardd Eden. Wyt ti’n meddwl y byddai Adda ac Efa yn hapus yn gwneud hyn i gyd? Hoffet ti fod wedi helpu i droi’r holl ddaear yn un ardd fawr hyfryd. Ond wnaeth hapusrwydd Adda ac Efa ddim para’n hir. Gad inni weld pam.

Salm 83:18 (Beibl Cysegr-lân); Genesis 1:26-31; 2:7-25.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu