LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 15
  • Gwraig Lot

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwraig Lot
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Duw yn Gwneud Cyfamod ag Abraham
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Lot a’i Deulu
    Storïau’r Beibl Mewn Lluniau
  • Helpa Eraill i Ymdopi â Straen
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Cofiwch Wraig Lot
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
Storïau o’r Beibl
my stori 15
Trodd gwraig Lot yn ôl i edrych ar Sodom a chafodd ei throi’n golofn o halen

STORI 15

Gwraig Lot

ROEDD Lot a’i deulu yn byw gydag Abraham yng ngwlad Canaan. Un diwrnod, dywedodd Abraham wrth Lot: ‘Nid oes digon o borfa yma i’n hanifeiliaid i gyd. Rhaid inni wahanu. Dewisa di pa ffordd wyt ti am fynd, ac fe af i i’r cyfeiriad arall.’

Edrychodd Lot ar dir ffrwythlon dyffryn Iorddonen, lle roedd digonedd o ddŵr a glaswellt i’w anifeiliaid. Penderfynodd Lot a’i deulu symud yno i fyw. Yn y diwedd, fe wnaethon nhw ymgartrefu yn ninas Sodom.

Roedd trigolion Sodom yn ddrwg iawn. Oherwydd bod Lot yn ddyn da, roedd gweld yr holl ddrygioni yn torri ei galon. Roedd Duw hefyd yn flin. Yn y diwedd, anfonodd Duw ddau angel i rybuddio Lot. Dywedodd yr angylion bod Duw yn bwriadu dinistrio Sodom a dinas arall o’r enw Gomorra oherwydd drygioni’r bobl.

Dywedodd yr angylion wrth Lot: ‘Brysia! Cymer dy wraig a’th ddwy ferch a dianc o’r fan yma!’ Roedd Lot a’i deulu braidd yn araf yn gadael. Felly, cydiodd yr angylion yn eu dwylo a’u tywys allan o’r ddinas gan ddweud: ‘Rhedwch am eich bywydau! Peidiwch ag edrych yn ôl. Rhedwch yn syth i’r bryniau, fel na fyddwch chi’n cael eich lladd.’

Edrychodd Lot a’i ferched yn syth ymlaen ar ôl ffoi o ddinas Sodom

Rhedodd Lot a’i ferched nerth eu traed. Wnaethon nhw ddim stopio am funud a wnaethon nhw ddim edrych yn ôl i gyfeiriad Sodom. Ond roedd gwraig Lot yn anufudd. Ar ôl rhedeg am ychydig, stopiodd hi ac edrych yn ei hôl. Cafodd ei throi’n golofn o halen yn y fan a’r lle. Wyt ti’n gallu ei gweld hi yn y llun?

Mae hyn yn dysgu gwers i ni. Mae’n dangos bod Duw yn achub y rhai sy’n gwrando arno, ond bydd y rhai sy’n anufudd iddo yn colli eu bywydau.

Genesis 13:5-13; 18:20-33; 19:1-29; Luc 17:28-32; 2 Pedr 2:6-8.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu