LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 20
  • Dina yn Mynd i Helynt

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dina yn Mynd i Helynt
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Ffo Rhag Anfoesoldeb Rhywiol
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Teulu Mawr Jacob
    Storïau o’r Beibl
  • Jacob ac Esau
    Storïau o’r Beibl
Storïau o’r Beibl
my stori 20
Dina a Sichem

STORI 20

Dina yn Mynd i Helynt

A WYT ti’n gweld i le mae Dina yn mynd? Mae hi’n mynd i weld rhai o’r merched sy’n byw yng ngwlad Canaan. A fyddai ei thad, Jacob, yn hapus am hynny? Wel, beth roedd Abraham ac Isaac yn ei feddwl o’r merched yng ngwlad Canaan? Wyt ti’n cofio?

Tair merch o wlad Canaan

A oedd Abraham yn dymuno i’w fab Isaac briodi merch o wlad Canaan? Nac oedd. A oedd Isaac a Rebeca’n dymuno i’w mab Jacob briodi merch o Ganaan? Nac oedden. Wyt ti’n gwybod pam?

Y rheswm oedd bod y bobl yng ngwlad Canaan yn addoli gau dduwiau. Doedden nhw ddim yn bobl dda i’w priodi, nac i’w cael yn ffrindiau agos chwaith. Felly, fyddai Jacob ddim yn hapus yn gweld Dina’n gwneud ffrindiau gyda’r merched hynny.

Fel y gelli di ddisgwyl, fe aeth Dina i helynt. Wyt ti’n gweld y dyn yn y llun yn edrych ar Dina? Ei enw ef oedd Sichem. Un diwrnod pan aeth Dina i weld ei ffrindiau, cymerodd Sichem hi a’i gorfodi i orwedd gydag ef. Peth drwg oedd hyn oherwydd dim ond pobl briod sydd i fod i orwedd gyda’i gilydd. Fe wnaeth ymddygiad drwg Sichem arwain at helynt mawr.

Gwylltiodd brodyr Dina pan glywon nhw am yr hyn oedd wedi digwydd. Roedd dau ohonyn nhw, Simeon a Lefi, yn gandryll. Gan godi eu cleddyfau, aethon nhw i mewn i’r ddinas a dal Sichem a’i ffrindiau a’u lladd nhw i gyd. Roedd Jacob yn ddig wrth ei feibion am wneud rhywbeth mor gas.

Sut dechreuodd yr holl helynt? Fe ddigwyddodd oherwydd bod Dina wedi gwneud ffrindiau â phobl nad oedden nhw’n dilyn cyfraith Duw. Fydden ni byth eisiau gwneud ffrindiau fel hynny, na fydden?

Genesis 34:1-31.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu