LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 21
  • Brodyr Cas Joseff

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Brodyr Cas Joseff
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Symud i’r Aifft
    Storïau o’r Beibl
  • Mae Jehofa yn Dy Helpu Di i Lwyddo
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Storïau o’r Beibl
my stori 21
Brodyr Joseff yn ei werthu yn gaethwas

STORI 21

Brodyr Cas Joseff

A WYT ti’n gweld pa mor drist a digalon yw’r bachgen yn y llun? Joseff yw ei enw. Mae ei frodyr wedi ei werthu’n gaethwas i ddynion sydd ar eu ffordd i’r Aifft. Pam mae ei hanner brodyr wedi gwneud rhywbeth mor ddrwg? Oherwydd eu bod nhw’n genfigennus.

Roedd eu tad, Jacob, yn hoff iawn o Joseff. Rhoddodd gôt hardd iddo. Pan welodd y deg brawd arall mai Joseff oedd ffefryn eu tad, roedden nhw’n genfigennus ohono ac yn dechrau ei gasáu. Ond, roedd rheswm arall hefyd pam roedden nhw’n ei gasáu.

Cafodd Joseff ddwy freuddwyd. Yn y ddwy freuddwyd, roedd ei frodyr yn ymgrymu o’i flaen. Pan ddisgrifiodd y breuddwydion hyn wrth ei frodyr, roedden nhw’n ei gasáu’n fwy byth.

Un diwrnod, roedd brodyr Joseff wedi mynd â’r defaid i chwilio am borfa. Dywedodd Jacob wrth Joseff am fynd i weld a oedd popeth yn iawn. Pan welodd y brodyr Joseff yn dod, dyma rai ohonyn nhw’n dweud: ‘Dewch, gadewch inni ei ladd!’ Ond dywedodd Reuben, y brawd hynaf: ‘Na, peidiwch â gwneud hynny!’ Felly cydion nhw yn Joseff a’i daflu i mewn i hen ffynnon sych. Yna, eisteddon nhw i drafod beth y dylen nhw ei wneud ag ef.

Brodyr Joseff yn derbyn arian gan yr Ismaeliaid

Ymhen ychydig, dyma nhw’n gweld criw o Ismaeliaid yn dod. Dywedodd Jwda wrth ei hanner brodyr: ‘Pam na wnawn ni ei werthu i’r Ismaeliaid?’ A dyna beth wnaethon nhw. Gwerthon nhw Joseff am ugain darn o arian. Dyna i chi beth cas a chreulon i’w wneud!

Ond beth oedden nhw’n mynd i’w ddweud wrth eu tad? Penderfynon nhw ladd gafr a throchi côt Joseff yn y gwaed. Wedyn, aethon nhw adref a dangos y gôt i Jacob. ‘Rydyn ni wedi dod o hyd i hon,’ medden nhw. ‘Ai Joseff biau hi?’

Edrychodd Jacob a gweld mai côt Joseff oedd hi. ‘Mae’n rhaid bod rhyw anifail gwyllt wedi lladd Joseff,’ meddai yn ei ddagrau. Dyna’n union beth roedd y brodyr am i’w tad feddwl. Roedd Jacob yn torri ei galon. Galarodd am ei fab am amser hir. Ond doedd Joseff ddim wedi marw. Gad inni weld beth ddigwyddodd iddo, a lle roedd yr Ismaeliaid yn mynd ag ef.

Genesis 37:1-35.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu