LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 53
  • Addewid Jefftha

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Addewid Jefftha
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus
    Dysgu Eich Plant
  • Mae Bod yn Ffyddlon yn Plesio Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Jefftha—Dyn Ysbrydol
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Mae Pobl Ffyddlon yn Cadw Eu Haddewidion i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Storïau o’r Beibl
my stori 53
Merch Jefftha yn chwarae tambwrïn wrth gwrdd a’i thad

STORI 53

Addewid Jefftha

A WYT ti erioed wedi gwneud addewid a oedd yn anodd ei gadw? Dyna beth a wnaeth y dyn yn y llun hwn, a dyna pam y mae’n edrych mor drist. Ei enw oedd Jefftha. Barnwr dewr yn Israel oedd Jefftha.

Yn nyddiau Jefftha, roedd pobl Israel wedi anghofio am Jehofa a dechrau gwneud pethau drwg. Felly gadawodd Jehofa i bobl Ammon ymosod arnyn nhw. Fe wnaeth yr Israeliaid weiddi ar Jehofa am help. ‘Rydyn ni wedi pechu,’ medden nhw. ‘Achub ni!’

Roedd y bobl yn difaru gwneud pethau drwg. Dechreuon nhw addoli Jehofa eto, ac felly fe wnaeth Jehofa eu helpu nhw.

Cafodd Jefftha ei ddewis i arwain y bobl yn erbyn yr Ammoniaid drwg. Ond, roedd Jefftha yn gwybod bod angen help Duw arno i ennill y frwydr. Felly, fe wnaeth adduned i Jehofa: ‘Os rhoi di’r fuddugoliaeth imi dros yr Ammoniaid, pwy bynnag yw’r un cyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cyfarfod pan af i adref, byddaf yn ei roi i ti.’

Jefftha yn torri ei galon wrth weld ei ferch yn dod allan o’r tŷ’n gyntaf

Gwrandawodd Jehofa ar addewid Jefftha a’i helpu i ennill y fuddugoliaeth. Ond pan aeth Jefftha adref, wyt ti’n gwybod pwy oedd yr un cyntaf i ddod allan o’r tŷ i’w gyfarfod? Ie, ei ferch ei hun, a hithau’n unig blentyn. ‘O, na! Fy merch i!’ wylodd Jefftha. ‘Rwyt ti wedi dryllio fy nghalon yn llwyr. Rydw i wedi gwneud addewid i Jehofa ac ni allaf dorri fy ngair.’

Pan glywodd merch Jefftha am addewid ei thad, roedd hithau hefyd yn drist. Byddai hi’n gorfod gadael ei thad a’i ffrindiau. Ond byddai hi’n cael mynd i’r tabernacl yn Seilo a threulio gweddill ei hoes yn gwasanaethu Jehofa. Felly dywedodd hi wrth ei thad: ‘Os wyt ti wedi gwneud addewid i Jehofa, mae’n rhaid iti ei gadw.’

Felly, symudodd merch Jefftha i Seilo a gweithiodd yn y tabernacl am weddill ei bywyd. Am bedwar diwrnod bob blwyddyn, byddai merched Israel yn mynd i ymweld â hi a chael amser da yn ei chwmni. Roedd y bobl yn caru merch Jefftha am ei bod hi’n gwasanaethu Jehofa mor ffyddlon.

Barnwyr 10:6-18; 11:1-40.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu