LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 54
  • Y Dyn Cryfaf Erioed

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Dyn Cryfaf Erioed
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Dibynna ar Jehofa, Fel y Gwnaeth Samson
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Braslun Barnwyr
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • Mae Bradychu yn Warthus!
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
Storïau o’r Beibl
my stori 54
Samson yn lladd llew gyda’i ddwylo ei hun

STORI 54

Y Dyn Cryfaf Erioed

A WYT ti’n gwybod pwy oedd y dyn cryfaf erioed? Barnwr o’r enw Samson. Cafodd Samson ei nerth oddi wrth Jehofa. Hyd yn oed cyn i Samson gael ei eni, dywedodd Jehofa wrth ei fam: ‘Cyn bo hir y byddi di’n cael mab. Ef fydd yn achub Israel rhag y Philistiaid.’

Pobl ddrwg oedd y Philistiaid. Roedden nhw’n byw yng ngwlad Canaan. Roedd ganddyn nhw fyddin fawr ac roedden nhw’n ymosod yn ddidrugaredd ar yr Israeliaid. Un diwrnod, pan oedd Samson ar ei ffordd i un o ddinasoedd y Philistiaid, clywodd sŵn rhuo ac yn sydyn dyma lew mawr yn rhuthro tuag ato. Ond lladdodd Samson y llew â’i ddwylo ei hun. Fe laddodd hefyd gannoedd o Philistiaid drwg.

Yn nes ymlaen, syrthiodd Samson mewn cariad â merch o’r enw Delila. Addawodd arweinwyr y Philistiaid y bydden nhw i gyd yn rhoi 1,100 o ddarnau arian i Delila, petai hi’n dweud wrthyn nhw beth oedd yn gwneud Samson mor gryf. Roedd Delila yn caru arian. Doedd hi ddim yn caru Samson a doedd hi ddim yn caru pobl Dduw chwaith. Felly, byddai hi’n pwyso ar Samson i gael gwybod beth oedd cyfrinach ei nerth.

Samson a Delila

Yn y diwedd, llwyddodd Delila i berswadio Samson i ddweud wrthi pam ei fod mor gryf. ‘Dydw i erioed wedi cael torri fy ngwallt,’ meddai Samson. ‘Pan oeddwn i’n fabi, cefais fy newis gan Dduw i fod yn was arbennig iddo, yn Nasaread. Petawn i’n torri fy ngwallt, byddwn i’n colli fy nerth.’

Pan glywodd Delila hyn, fe suodd Samson i gysgu a’i ben ar ei gliniau hi. Yna galwodd ar ddyn i ddod i mewn a thorri gwallt Samson. Pan ddeffrôdd Samson, roedd ei nerth wedi diflannu. Daeth y Philistiaid i mewn a’i ddal. Fe wnaethon nhw ei ddallu a’i droi’n gaethwas.

Samson yn gwrthio’n erbyn y colofnau felly mae’r adeilad yn syrthio i lawr

Un diwrnod cafodd y Philistiaid barti mawr i addoli eu duw, Dagon, a dyma nhw’n dod â Samson o’r carchar i wneud hwyl am ei ben. Erbyn hyn roedd gwallt Samson wedi tyfu eto. Dywedodd Samson wrth y bachgen a oedd yn ei arwain: ‘Gad imi gyffwrdd â’r colofnau sy’n cynnal yr adeilad.’ Yna gweddïodd ar Jehofa am nerth ac ymestynnodd at y colofnau. ‘Gad imi farw gyda’r Philistiaid,’ gwaeddodd, a gwthiodd a’i holl nerth yn erbyn y ddwy golofn. Syrthiodd y deml ar ben pawb ac fe laddwyd 3,000 o’r Philistiaid drwg.

Barnwyr penodau 13 i 16.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu