LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 70
  • Jona a’r Pysgodyn Mawr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Jona a’r Pysgodyn Mawr
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Braslun Jona
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • Dilynwch Esiamplau’r Proffwydi—Jona
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Gwersi o Lyfr Jona
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2017
Storïau o’r Beibl
my stori 70
Jona yn mynd i gael ei lyncu gan bysgodyn mawr

STORI 70

Jona a’r Pysgodyn Mawr

EDRYCHA ar y dyn yn y môr. Wyt ti’n meddwl ei fod mewn helynt? Mae’r pysgodyn enfawr yn mynd i’w lyncu. Wyt ti’n gwybod pwy yw’r dyn hwn? Ei enw yw Jona. Gad inni weld pam roedd Jona mewn sefyllfa mor beryglus.

Proffwyd Jehofa oedd Jona. Yn fuan ar ôl i’r proffwyd Eliseus farw, dywedodd Jehofa wrth Jona: ‘Dos i ddinas fawr Ninefe. Mae’r bobl yno yn ddrwg iawn, ac rydw i am iti eu rhybuddio nhw.’

Ond nid oedd Jona eisiau mynd. Felly, cafodd le ar long oedd yn hwylio i wlad ymhell o Ninefe. Doedd Jehofa ddim yn hapus pan welodd Jona yn rhedeg i ffwrdd, ac fe anfonodd storm enfawr. Mor gryf oedd y gwyntoedd nes bod y llong ar fin suddo. Roedd y morwyr wedi dychryn yn lân ac fe waeddon nhw ar eu duwiau am help.

Morwyr yn edrych dros ymyl y llong ar ôl taflu Jona i’r môr

Yn y diwedd, dywedodd Jona wrthyn nhw: ‘Rydw i’n addoli Jehofa, y Duw sydd wedi creu’r ddaear a’r nef. Ac rydw i’n rhedeg i ffwrdd oherwydd dydw i ddim eisiau gwneud beth mae Jehofa wedi gofyn imi ei wneud.’ Gofynnodd y morwyr: ‘Beth dylen ni ei wneud iti er mwyn tawelu’r storm?’

‘Taflwch fi i’r môr a bydd y tonnau’n tawelu,’ meddai Jona. Nid oedd y morwyr am wneud hynny, ond aeth y storm o ddrwg i waeth, ac yn y diwedd dyma nhw’n cydio yn Jona a’i daflu i’r môr. Ar unwaith, gostegodd y gwynt a thawelodd y tonnau.

Wrth i Jona suddo yn y dŵr, dyma’r pysgodyn mawr yn ei lyncu. Ond ni fu farw. Am dri diwrnod a thair noson bu ym mol y pysgodyn. Roedd Jona yn difaru nad oedd wedi gwrando ar Jehofa a mynd i Ninefe. Felly, wyt ti’n gwybod beth a wnaeth?

Gweddïodd Jona ar Jehofa am help. Yna, achosodd Jehofa i’r pysgodyn chwydu Jona allan ar dir sych. Ar ôl hynny, aeth Jona i Ninefe. Wyt ti’n cytuno bod y stori hon yn dangos pa mor bwysig yw gwneud beth bynnag mae Jehofa yn ei ofyn?

Llyfr Jona 1-4.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu