LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 86
  • Dilyn Seren

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dilyn Seren
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Pwy Oedd y “Tri Gŵr Doeth”? A Wnaethon Nhw Ddilyn “Seren” Bethlehem?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Sut Gwnaeth Jehofa Amddiffyn Iesu?
    Dysgu Oddi Wrth yr Athro Mawr
Storïau o’r Beibl
my stori 86
Sêr-ddewiniaid yn dilyn seren ddisglair

STORI 86

Dilyn Seren

A WYT ti’n gweld y dyn yn pwyntio at y seren ddisglair? Mae’r dynion hyn wedi dod o’r Dwyrain, ac maen nhw’n astudio’r sêr. Roedden nhw’n credu bod y seren newydd yn eu harwain at rywun pwysig.

Y seren ddisglair yn yr awyr uwchben Bethlehem

Pan gyrhaeddodd y dynion Jerwsalem, gofynnon nhw: ‘Ble mae’r plentyn sydd wedi cael ei eni yn Frenin yr Iddewon?’ Enw arall ar yr Israeliaid yw Iddewon. ‘Gwelon ni seren y plentyn o’r Dwyrain,’ meddai’r dynion, ‘ac rydyn ni wedi dod i’w addoli.’

Roedd Herod yn frenin yn Jerwsalem bryd hynny. Pan glywodd y sôn am frenin arall, fe gynhyrfodd yn lân. Nid oedd Herod am i frenin arall gymryd ei le. Felly, galwodd y prif offeiriaid a dweud wrthyn nhw: ‘Rydw i’n deall bod Duw wedi addo anfon brenin. Ydych chi’n gwybod lle bydd hwnnw’n cael ei eni?’ Dyma nhw’n ateb: ‘Mae’r Beibl yn dweud ym Methlehem.’

Felly, galwodd Herod y dynion o’r Dwyrain ato, a dweud: ‘Ewch i chwilio am y plentyn. Pan fyddwch chi wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod imi, oherwydd rydw i eisiau mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.’ Ond, eisiau lladd y plentyn oedd Herod!

Gadawodd y dynion Jerwsalem a dyma’r seren yn mynd o’u blaen i gyfeiriad Bethlehem. Yno, arhosodd y seren uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. Pan aeth y dynion i mewn i’r tŷ, dyna lle roedd Iesu a Mair. Rhoddodd y dynion anrhegion i Iesu. Ond yn nes ymlaen, cawson nhw rybudd gan Jehofa mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod. Felly, aethon nhw yn ôl i’w gwlad eu hunain ar hyd ffordd arall.

Pan glywodd Herod fod y dynion o’r Dwyrain wedi mynd adref, roedd yn gynddeiriog. Gorchmynnodd i bob bachgen o dan ddwyflwydd oed ym Methlehem gael ei ladd. Ond rhoddodd Jehofa rybudd i Joseff mewn breuddwyd, ac aeth Joseff â’i deulu i’r Aifft. Yn nes ymlaen, pan glywodd Joseff fod Herod wedi marw, aeth â’i deulu adref i Nasareth. A dyna lle cafodd Iesu ei fagu.

Pwy wyt ti’n meddwl a wnaeth i’r seren dywynnu? Cofia, ar ôl gweld y seren, aeth y dynion yn gyntaf i Jerwsalem. Roedd Satan y Diafol eisiau lladd Mab Duw, ac roedd yn gwybod y byddai’r Brenin Herod hefyd yn ceisio ei ladd. Felly, mae’n glir mai Satan oedd yr un a wnaeth i’r seren dywynnu.

Mathew 2:1-23; Micha 5:2.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu