LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 89
  • Glanhau’r Deml

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Glanhau’r Deml
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Ydy Anifeiliaid yn Mynd i’r Nefoedd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Oeddet Ti’n Gwybod?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
Storïau o’r Beibl
my stori 89
Iesu yn bwrw’r dynion barus allan o’r deml ac yn troi eu byrddau drosodd

STORI 89

Glanhau’r Deml

MAE Iesu yn edrych yn flin yma, on’d ydy? Wyt ti’n gwybod pam? Roedd Iesu wedi digio wrth y dynion barus yn nheml Duw yn Jerwsalem. Roedden nhw’n ceisio cymryd mantais ar y bobl oedd yn mynd i’r deml i addoli Duw.

Wyt ti’n gweld yr holl wartheg a defaid a cholomennod? Roedd y dynion yn dod â’r anifeiliaid i mewn i’r deml i’w gwerthu! Wyt ti’n gwybod pam? Wel, roedd angen adar ac anifeiliaid ar yr Israeliaid i’w hoffrymu i Dduw.

Yn ôl cyfraith Duw, pan oedd yr Israeliaid yn pechu, roedd yn rhaid iddyn nhw offrymu rhywbeth i Dduw. Roedd yr Israeliaid yn gwneud offrymau ar adegau eraill hefyd. Ond o ble roedd yr Israeliaid yn cael yr adar a’r anifeiliaid i’w hoffrymu i Dduw?

Roedd rhai Israeliaid yn cadw anifeiliaid ac adar, ac felly yn gallu offrymu’r rheini. Ond nid pawb oedd yn berchen ar anifeiliaid. Ac roedd rhai yn byw yn rhy bell o Jerwsalem i ddod â’u hanifeiliaid i’r deml. Felly, fe fyddai pobl yn teithio i’r ddinas ac yn prynu anifeiliaid neu adar yno. Ond roedd y dynion barus yn gofyn pris llawer rhy uchel am yr anifeiliaid. Roedden nhw’n twyllo’r bobl. Ar ben hynny, ni ddylen nhw fod wedi gwerthu pethau o gwbl yng nghanol teml Duw.

Dyna pam roedd Iesu mor flin. Felly, fe drodd fyrddau’r dynion barus drosodd a chwalu’r arian dros bob man. Hefyd, fe wnaeth chwip o raffau a gyrru’r anifeiliaid i gyd allan o’r deml. Gorchmynnodd i’r dynion oedd yn gwerthu’r colomennod: ‘Ewch â’r rhain oddi yma! Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad yn farchnad.’

Roedd rhai o ddilynwyr Iesu wedi dod gydag ef i’r deml yn Jerwsalem. Pan welon nhw beth a wnaeth, roedden nhw wedi eu syfrdanu. Yna, fe gofion nhw fod y Beibl wedi dweud am Fab Duw: ‘Bydd cariad at dŷ Duw yn llosgi ynddo fel tân.’

Tra oedd Iesu yn Jerwsalem ar gyfer y Pasg, fe wnaeth lawer o wyrthiau. Yna, gadawodd Iesu Jwdea a chychwyn ar y daith yn ôl i Galilea. Ond ar y ffordd, fe aeth trwy ardal Samaria. Gad inni weld beth ddigwyddodd yno.

Ioan 2:13-25; 4:3, 4.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu