LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 111
  • Bachgen a Aeth i Gysgu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Bachgen a Aeth i Gysgu
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • “Rydw i’n . . . Lân Oddi Wrth Waed Pob Dyn”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Llongddrylliad
    Storïau o’r Beibl
  • Timotheus yn Helpu Paul
    Storïau o’r Beibl
  • “Rydyn Ni Eisiau i Ewyllys Jehofa Ddigwydd”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
Gweld Mwy
Storïau o’r Beibl
my stori 111
Eutychus wedi marw ar y llawr

STORI 111

Bachgen a Aeth i Gysgu

ROEDD Paul yn rhoi anerchiad i’r disgyblion yn Troas. Gan ei fod yn gadael y diwrnod wedyn, ac na fyddai’n gweld y disgyblion am amser hir, daliodd ati i siarad tan hanner nos. Os edrychi di ar y llun fe weli di Paul yn dod allan o’r tŷ. Wyt ti’n gweld Timotheus yno hefyd? Beth sydd wedi digwydd? Ydy’r bachgen wedi ei anafu’n ddifrifol? Ydy’r bachgen wedi syrthio allan o’r ffenestr? Do, dyna’n union a ddigwyddodd.

Eutychus oedd enw’r bachgen. Roedd yn eistedd wrth y ffenestr ar y trydydd llawr pan aeth i deimlo’n gysglyd. Yn sydyn, dyma Eutychus yn syrthio allan drwy’r ffenestr ac yn disgyn i’r llawr! Dyna pam mae golwg bryderus ar y bobl. Wrth i’r dynion gydio yn y bachgen, dyma nhw’n sylweddoli ei fod wedi marw!

Pan welodd Paul fod Eutychus wedi marw, fe aeth ato a chofleidio corff y bachgen yn dynn. ‘Peidiwch â chynhyrfu,’ meddai. ‘Mae’r bachgen yn iawn.’ Ac fe oedd! Roedd yn wyrth! Roedd Paul wedi dod ag ef yn ôl yn fyw! Roedd y dyrfa wrth eu boddau.

Aeth pawb yn ôl i’r ystafell i fyny’r grisiau am bryd o fwyd. Siaradodd Paul tan y wawr. Wyt ti’n meddwl bod Eutychus wedi mynd yn ôl i gysgu? Naddo siŵr! Yn y bore, dechreuodd Paul, Timotheus, a’r rhai oedd gyda nhw ar eu taith. Wyt ti’n gwybod lle roedden nhw’n mynd?

Mae Paul a Timotheus yn gweld bod Eutychus wedi disgyn a marw

Erbyn hyn, roedd Paul ar ei ffordd adref. Yn ystod y drydedd daith, roedd Paul wedi treulio tair blynedd yn Effesus. Felly, roedd y drydedd daith yn hirach na’r ail.

Teithiodd Paul a’r disgyblion eraill i Miletus mewn llong, ac arhoson nhw yno am ychydig o ddyddiau. Gan fod Effesus yn weddol agos, anfonodd Paul at yr henuriaid yno a gofyn iddyn nhw ddod i Miletus i’w gyfarfod am y tro olaf. Pan ddaeth hi’n amser i’r llong adael, roedd pawb yn drist i ffarwelio â Paul.

Yn y diwedd, cyrhaeddodd y llong Gesarea. Arhosodd Paul yn nhŷ disgybl o’r enw Philip. Un diwrnod, dyma broffwyd o’r enw Agabus yn dod â rhybudd i Paul. Dywedodd Agabus y byddai Paul yn cael ei gymryd yn garcharor petai’n mynd i Jerwsalem. A dyna’n union a ddigwyddodd. Yna, ar ôl iddo dreulio dwy flynedd yn y carchar yng Nghesarea, cafodd Paul ei anfon ymlaen i Rufain i sefyll ei brawf o flaen Cesar, yr ymerawdwr Rhufeinig. Gad inni weld beth ddigwyddodd ar y daith i Rufain.

Actau penodau 19 i 26.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu