Cân 18 (42)
“Dyma’r Ffordd”
(Eseia 30:20, 21)
1. Mae llais Duw yn galw: Y ffordd - rhodiwch hi;
Y ffordd a ddangosa Jehofah i ni.
Mae ganddo gyfundrefn a gwas ffyddlon, call,
Sy’n rhoi in arweiniad a rhybudd di-ball.
O dyma’r ffordd sy’n lân, boddhaus;
Arhoswch arni yn barhaus!
Â’n clustiau clywn yn wir yr alwad eglur glir;
I ddweud amdani yw ein cais.
Yr ysbryd a’n helpa i rodio yn iawn.
Yn llwybrau uniondeb mawr fendith a gawn.
2. Y llais sydd o’n hôl ni, mor hyfryd, o’r nef,
Ein Hathro Ardderchog amlygodd ei lef.
Fe glywn ni â deall, a gwrando mor gall;
Rhaid peidio cam-droedio na gwneuthur un gwall.
Cerdd yn ffordd gyfiawn, ddisglair Duw,
Ffordd sanctaidd, eglur, olau yw.
Ein llygaid ffydd a wêl mai heddwch pur a ddêl,
Teyrnasa Crist dros ddynolryw.
I’r dde nac i’r aswy ni feiddiwn ni droi.
Wrth rodio yn ffordd Duw, ei gynnydd mae’n rhoi.
3. Egluro a dysgu yw’n braint ni yn awr
Am ffordd Duw Jehofah, drwy’r byd eang mawr.
I’w nyth fel c’lomennod rhai glywant a haid,
A dod at eu Craig, Duw, eu Noddfa ddi-baid.
Ffordd hedd yw ffordd Jehofah Dduw;
Rhag gafael Satan, rhyddid yw.
Yn ffyrdd cyfiawnder doeth a llwybrau mwynder coeth
Gwir fywyd gaiff y sawl a glyw.
Dyrchafwn ein pennau, cyflymwn ein cam
Â’n trem ar y Deyrnas, gorffwysfa ddi-nam.