Cân 21 (46)
Yr Ysgrythur—Ysbrydoledig a Buddiol
1. Golau disglair Gair ein Duw
Arwain mae at fywyd gwiw.
Ei wirionedd rydd ryddhad
Ac yng ngwaith ein Duw, foddhad.
2. Trwy y Gair, nesáu a wnawn
At Dduw cyfiawn, cariadlawn.
Bywyd bythol inni fydd
Os gweithredwn gadarn ffydd.
3. Ein cywiro’n gyson gawn
A’n disgyblu, os gwrandawn.
Rhoi’r hyfforddiant gorau mae
I bob un sy’n ufuddhau.
4. Caiff dyn Duw ddarpariaeth lawn
Gan Ysgrythur lân uniawn.
I weithredoedd doeth a da,
Llwyddiant, Duw a sicirha.