Cân 22 (47)
Jehofah, Ein Nerth a’n Cân
(Eseia 12:2)
1. Raslon Jehofah, ein nerth wyt a’n cân.
Gwaredwr ffyddlon, llawn rhinweddau glân.
Ein gwaith fel Tystion yw dwyn newydd da.
Llwyddiant dy fwriad am byth a barha.
(Cytgan)
2. Yn heddwch Crist fe gawn lwyr lawenhau.
Boed i’th wirionedd gwiw nawr amlhau.
Ar ddeddfau doeth Duw Jehofah gwrandawn.
D’ ewyllys sanctaidd a’th Air pur a wnawn.
(Cytgan)
3. Â chalon lawen gwas’naethwn ein Duw,
Er gwaethaf Satan all roi marwol friw.
Cymorth rho inni, cryfha nawr ein ffydd;
Fel Tystion cadwn uniondeb bob dydd.
(CYTGAN)
Jehofah, ein Craig, ein nerth wyt a’n cân;
D’enw cyhoeddwn, braint yw cael rhan.
Iôr hollalluog, Jehofah, Mawr Dduw;
Ein noddfa gadarn, a’n Tŵr bythol, byw.