Cân 24 (50)
Ymateb i Gariad Duw
1. O Arglwydd Dduw Goruchaf; dy garu wnawn yn bennaf,
Jehofah, haeddu rwyt nawr pob clod.
Mae d’enw’n ogoneddus a’th Air sy’n anrhydeddus,
Fe’n dysga am dy ffyrdd—hyn yw’n nod.
Dy aml dosturiaethau, a’th uniawn gyfiawnderau,
Amlygu maent ddoethineb a nerth.
Wrth ddarllen yr Ysgrythur, gwirionedd ddaw yn eglur,
Bendithion lawer gawn o wir werth.
2. Ein caru wnest o’r dechrau; trwy Grist dy lân rinweddau
Ein hannog wnânt i’th garu yn llawn.
Sancteiddiodd Crist dy enw, i’th gariad tynnodd sylw,
Ar eiriau bywyd bythol gwrandawn.
Y cariad mwyaf welsom oedd aberth Iesu trosom,
Ei fywyd roes yn bridwerth mor ddrud.
Ef yw ein tyner Fugail; ar gyngor rhaid ymafael,
Gweithredwn ddeddfau doeth yn unfryd.
3. I’r Deyrnas byddwn ffyddlon, pregethu wnawn yn gyson;
Cyhoeddwn addewidion ein Duw.
Gwnawn ymdrech fel disgyblion, rhown gymorth i’r gwan galon,
 chariad awn at holl ddynolryw.
Cariadlawn fôm i’n gilydd, gwas’naethwn â llawenydd,
O’r Deyrnas addawedig cawn flas.
Derbyniwn sanctaidd werthoedd, defnyddiwn ein galluoedd;
Cawn glywed mawr ganmoliaeth, “Da was.”