Cân 50 (123)
Ewch Ymlaen!
1. Ewch ymlaen, ewch ymlaen i aeddfedrwydd llawn!
Ewyllysia ein Duw inni wneud y cynnydd iawn.
Gwnewch eich rhan wrth bregethu y Gair uniawn,
Cans Duw bendithio’ch gwaith a wna.
Mae lle i bawb yng ngwasanaeth ein Duw,
Fe gofiwch waith Iesu Grist—tebyg yw.
Ufudd fyddwch o’ch calon a chadw’n fyw.
Yn gadarn sefwch â hyfdra.
2. Ewch ymlaen, ewch ymlaen, tystiwch nawr yn hy!
Newydd da am lân ddae’r glyw y dyrfa fawr di-ri’.
Moliant rhowch i Jehofah ein Brenin ni;
Wrth dystio byddwch llawn o sêl.
Er holl fygythion y gelyn, eich nod
Yw yn y gwaith o bregethu roi clod
I’r mawr Dduw a’r deg Deyrnas sy’n prysur ddod.
Y gwir gyhoeddwch, doed a ddêl.
3. Ewch ymlaen, ewch ymlaen, galwch ’n ôl mewn ffydd;
Rhowch ar waith eich galluoedd wrth wella’ch dawn bob dydd!
Ysbryd Duw, i ddaioni, eich cymell fydd;
Llawenydd dwyfol, llon fwynhewch.
Mawr gariad rhowch i’n brawdoliaeth mor wiw;
Ym mhob cynulliad gwrandewch ar Air Duw.
Cymorth gaiff bob un brawd, gweithred dda hyn yw.
Yn rhannu golau’r gwir parhewch.