Cân 63 (148)
Dyrchafu Ein Duw y Brenin
(Salm 145:1)
1. Moliannwch Jehofah ein Duw,
Bendithiwch ei enw clodwiw.
Dyrchafwn ein Iôn a’i fawrhau
Ac ato bob dydd agosáu.
Diwalla anghenion bob un,
Anogaeth a geir ar ei fin.
Teyrngarwch i Dduw rhown yn awr;
Jehofah sydd dda a mwynfawr.
Ffyddlondeb, teyrngarwch a rown;
Ein gore bob dydd, ato down.
Cans cyfiawn a gwir yw ei ffyrdd;
Ei fawr ryfeddodau ynt fyrdd.
Amddiffyn a wna ffyddlon rai
Sydd mewn ymdrech bur yn parhau.
Ei gymorth yn barod a gawn;
Jehofah, ein Brenin, mawrhawn.
3. Ei Deyrnas yn gyflym sy’n dod,
Llwyr adfer cyfiawnder, ei nod.
Cyhoeddi rhaid nawr drwy’r holl fyd
Y Deyrnas brydfertha’ i gyd.
Jehofah, ar orsedd roes Grist
Yn Frenin—y ffyddlonaf Dyst.
Fe ddifa ddrygioni yn chwim
Cans gan nerthol Dduw daw ei rym.