Cân 83 (187)
Gwneud Pob Peth yn Newydd
1. Arwyddion ein hoes amlwg ydynt yn awr;
Gorseddwyd â bri Mab Jehofah Mawr.
Enillodd yn lew frwydyr nefol fawr;
Holl sylw ein Duw gaiff y ddaear lawr.
(Cytgan)
2. Jerwsalem Newydd, priodferch Oen Duw,
Mae’n oll ogoneddus, yn loyw, gwiw.
Ei grisial ddisgleirdeb, ysblennydd yw.
Trwy Jah daw ei golau i’r ddynolryw.
(Cytgan)
3. Prydferthwch y ddinas i bawb hyfryd fydd.
Ei phyrth, agor fyddant bob nos a dydd.
Ysblander fel gemau i’w llewyrch sydd.
O weision ein Duw, nawr gweithredwch ffydd.
(CYTGAN)
Preswylfa Duw sydd gyda dyn;
A’r bobloedd, eiddo ef, bob un.
Ni fydd byth eto boen marwolaeth
Na thorcalonnus, creulon hiraeth.
‘Rwy’n gwneud,’ medd Duw, ‘pob peth yn newydd, pur,
Fy Ngair, ffyddlon yw, a gwir.’