Cân 92 (209)
Dilynwch y Brenin Ryfelwr!
1. Canwn yn llawen iawn i Jehofah Dduw,
Clod i’w frenhiniaeth a’i fawr ogoniant.
Newyddion da sydd gennym i bawb a’u clyw;
Llwyddo wna’i Air yn ôl ei ddymuniant.
(Cytgan)
2. Cenedl rydd rhyfelwyr ein Duw, nawr dewch;
Gwisg fel y Capten yw eich arfogaeth:
Tarian y ffydd a chleddyf y Sanctaidd Air,
Gwisgwch yn helm ddrudfawr iachawdwriaeth.
(Cytgan)
3. Buddugoliaethus fyddwn os yn nerth Duw
Gwisgwn arfogaeth sy’n lân, daionus.
Wrth ffyddlon dystiolaethu drwy’n tir, fe wnawn
Enw Jehofah yn ogoneddus.
(CYTGAN)
Awn ymlaen! (Ymlaen!)
Di-ofn, ymlaen! (Di-ofn, ymlaen!)
Fel mewn byddin awn ymlaen
Gyda’n Capten ar y blaen.
Brenin a dewr Ryfelwr, Mab Duw, uniawn,
Dilynwn ef, gorchfygu wnawn!