Cân 95 (213)
Gweithio Ynghyd Mewn Undod
1. Rhaid gweithredu’n gadarn fel un.
Annibyniaeth sydd mor ddi-lun.
Undod meddwl, harmoni llawn,
Rhwymyn tangnefedd gawn.
Undod ddaw â bendith—profi hyn a wnawn.
Os talentau aml sydd in,
Ni fydd ymffrost byth ar ein min.
Rhodio’n ostyngedig sydd raid,
Molwn ein Duw’n ddibaid.
2. Trais, eiddigedd sydd yn y byd,
Cynnen mawr, ymbleidio a llid.
Tangnefeddus beunydd fo’n min;
Ceisiwn fod yn gytûn.
Adnewyddiad mwynaidd fel y gwlith ddaw in.
Anghytundeb weithiau a ddaw;
Amherffeithrwydd sydd mor flaenllaw!
Heddwch wnawn cyn iddo ddwysáu.
Undod a gaiff barhau.
3. Llawen cydweithredwn bob dydd,
Elwa wnawn ar undod ein ffydd.
Mor ddymunol yw, hardd a da,
Llwyddiant a sicirha.
Gwerthfawr iawn yw’n hundod, boddhau Duw a wna.
Mawr fendithion undod a ddaw—
Trigwn gyda Duw yn ddi-fraw.
Gwir dangnefedd yw’n heiddo nawr,
Rhodd ein Penarglwydd mawr.