Rhan 1
Ydy Duw yn Gwir Ofalu Amdanon Ni?
1, 2. Pa gwestiwn mae pobl yn ei ofyn am Dduw, a pham?
RYWDRO yn eich bywyd, efallai i chi ofyn: ‘Os oes yna Dduw sy’n gwir ofalu amdanon ni, pam mae ef yn caniatáu gymaint o ddioddefaint?’ Mae pawb ohonon ni yn gwybod beth ydy dioddef neu’n ’nabod rhywun sydd wedi dioddef.
2 Yn wir, trwy gydol hanes mae pobl wedi dioddef poen a thorcalon oherwydd rhyfel, creulondeb, torcyfraith, anghyfiawnder, tlodi, salwch, a marwolaeth anwyliaid. Yn yr 20fed ganrif yn unig, lladdwyd dros 100 miliwn o bobl mewn rhyfeloedd. Mae cannoedd o filiynau eraill wedi eu hanafu neu wedi colli cartrefi ac eiddo. Mae llawer iawn o bethau erchyll wedi digwydd yn ein hoes ni, sydd wedi dod â thristwch mawr, dagrau lawer, a theimlad o anobaith i nifer di-rif o bobl.
3, 4. Sut mae llawer yn teimlo ynglŷn â Duw yn caniatáu dioddefaint?
3 Mae rhai yn chwerwi ac yn teimlo os oes yna Dduw, nad yw ef yn gwir ofalu amdanon ni. Neu efallai eu bod nhw’n teimlo hyd yn oed nad oes yna ddim Duw. Er enghraifft, gofynnodd dyn oedd wedi dioddef erlid hiliol achosodd farwolaeth ffrindiau a theulu yn ystod Rhyfel Byd I: “Ble roedd Duw pan oedd ei angen arnon ni?”[1] Dywedodd un arall, oroesodd lofruddio miliynau gan y Natsïaid yn Rhyfel Byd II, ac a oedd wedi’i dristáu gymaint gan y dioddefaint a welodd: “Pe baech chi’n gallu llyfu fy nghalon, fe fyddai hi’n eich gwenwyno.”[2]
4 Felly, mae llawer o bobl yn methu deall pam y byddai Duw daionus yn caniatáu i bethau drwg ddigwydd. Maen nhw’n amau a ydy ef yn gwir ofalu amdanon ni neu a ydy ef yn bod o gwbl. Ac mae llawer ohonyn nhw’n teimlo y bydd dioddefaint bob amser yn rhan o fodolaeth ddynol.
[Lluniau ar dudalen 2, 3]
Oes ’na fyd newydd yn rhydd rhag dioddefaint yn agos?