LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • kl pen. 18 tt. 170-180
  • Eich Nod—Gwas’naethu Duw am Byth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Eich Nod—Gwas’naethu Duw am Byth
  • Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • IESU’N DEFNYDDIO’R WYBODAETH O DDUW
  • CAMU I GYFEIRIAD BYWYD TRAGWYDDOL
  • BEDYDD—EI YSTYR I CHI
  • YDYCH CHI’N BAROD I GAEL EICH BEDYDDIO?
  • BYW YN DEILWNG O’CH YMGYSEGRIAD A’CH BEDYDD
  • Bedydd a’ch Perthynas â Duw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Beth Yw Bedydd?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
kl pen. 18 tt. 170-180

Pennod 18

Eich Nod—Gwas’naethu Duw am Byth

1, 2. Be’ sydd ei angen heblaw meddu ar y wybodaeth o Dduw?

D’WEDWCH eich bod chi’n sefyll o flaen drws wedi’i gloi sy’n arwain i ystafell llawn trysorau a bod swyddog yn rhoi’r allwedd yn eich llaw a’r hawl i’r pethau gwerthfawr hyn. Heb i chi roi’r allwedd yn y clo a’i throi ’dyw hi’n dda i ddim i chi. Dyna sut mae hi gyda gwybodaeth—mae’n rhaid ei defnyddio cyn cewch chi unrhyw les ohoni.

2 Mae hyn yn arbennig o wir am y wybodaeth o Dduw. Mae dod i ’nabod Jehofah Dduw a Iesu Grist yn dda ac yn gywir yn golygu bywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Ac eto, fe fyddai’r holl wybodaeth hon yn ofer heb fyw yn ôl yr hyn mae’n ei ddweud. I gyrraedd y nod hwn mae’n rhaid rhoi’r wybodaeth o Dduw ar waith yn eich bywyd. Fel d’wedodd Iesu, y rhai sy’n gwneud ewyllys Duw fydd yn ‘mynd i mewn i’r deyrnas,’ a’u braint fydd gwas’naethu Duw am byth!—Mathew 7:21; 1 Ioan 2:17.

3. Be’ ’di ewyllys Duw ar ein cyfer ni?

3 Ar ôl dysgu be’ ydi ewyllys Duw, mae’n bwysig iawn ei gwneud hi. Be’ ydych chi’n ei feddwl ydi ewyllys Duw ar eich cyfer chi? Mae’n bosib’ ei chrynhoi yn y geiriau hyn: Byddwch yn debyg i Iesu. Mae Llythyr Cyntaf Pedr 2:21 yn dweud: “I hyn y’ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef.” Felly, i wneud ewyllys Duw, rhaid i chi ddilyn esiampl Iesu. Dyna sut mae rhoi’r wybodaeth o Dduw ar waith yn eich bywyd.

IESU’N DEFNYDDIO’R WYBODAETH O DDUW

4. Pam mae Iesu yn gwybod cymaint am Jehofah, a sut mae e wedi defnyddio’r wybodaeth?

4 Mae Iesu Grist yn adnabod Duw yn bersonol yn well na neb arall. Am oesoedd cyn dod i’r ddaear, mi ’roedd e’n byw ac yn gweithio gyda Jehofah Dduw yn y nef. (Colosiaid 1:15, 16) Beth wnaeth Iesu gyda’r holl wybodaeth hon? Byw yn ôl y wybodaeth, a dangos hyn trwy fod yn garedig, yn amyneddgar a chariadus wrth drin pobl. Wrth efelychu ei Dad nefol fel hyn fe ddaeth Iesu yn union fel Jehofah o ran personoliaeth ac yn ei ffordd o wneud pethau.—Ioan 8:23, 28, 29, 38; 1 Ioan 4:8.

5. Pam gafodd Iesu ei fedyddio, a sut ’roedd e’n byw yn ôl ystyr ei fedydd?

5 Yn unol â’r wybodaeth oedd ganddo aeth Iesu o Galilea at Ioan i gael ei fedyddio yn Afon Iorddonen—cam pwysig. (Mathew 3:13-15) Beth oedd ystyr bedydd Iesu? Gan mai Iddew oedd e, wedi’i eni i genedl gysegredig i Dduw, ’roedd Iesu wedi’i gysegru o ddydd ei eni. (Exodus 19:5, 6) Wrth ymostwng i gael ei fedyddio, ’roedd e’n ei gyflwyno’i hun i Jehofah i wneud yr ewyllys ddwyfol ar ei gyfer yr adeg hynny. (Hebreaid 10:5, 7) Ac wrth rannu’r wybodaeth o Dduw gydag eraill ar bob cyfle a’i roi ei hun yn gyfangwbl yng ngwasanaeth Jehofah, fe gyflawnodd Iesu holl ddisgwyliadau ei fedydd. Gymaint oedd hyfrydwch Iesu wrth wneud ewyllys Duw fel gallai ddweud fod hynny cystal â bwyd iddo.—Ioan 4:34.

6. Ym mha ffordd yr ymwadodd Iesu ag ef ei hun?

6 ’Roedd Iesu’n sylweddoli y byddai pris mawr i’w dalu am wneud ewyllys Jehofah—byddai’n rhaid iddo farw. Er hynny, fe fynnodd roi’r lle blaenaf bob amser i wneud ewyllys Duw, a’i roi ei hun a’i anghenion personol yn ail. Sut medrwn ni ddilyn esiampl berffaith Iesu yn hyn o beth?

CAMU I GYFEIRIAD BYWYD TRAGWYDDOL

7. Enwch rai camau sy’n rhaid ichi eu cymryd cyn bod yn barod i gael eich bedyddio?

7 ’Roedd Iesu’n berffaith, ond ’dydyn ni ddim, felly mae gofyn i ni ddilyn camau ychwanegol pwysig cyn medru ystyried carreg filltir bedydd. Y man cychwyn i ni ydi derbyn gwybodaeth gywir am Jehofah Dduw ac Iesu Grist i’n calon, ac yna ddangos ffydd yn Nuw a dod i’w garu’n fawr. (Mathew 22:37-40; Rhufeiniaid 10:17; Hebreaid 11:6) Wrth ymostwng a byw yn ôl gorchmynion Duw, ei egwyddorion a’i safonau, fe ddown i deimlo’n wir edifar am ein cwrs pechadurus gynt. Mae hyn yn arwain at dröedigaeth, hynny ydi, newid yn llwyr a throi ein cefn ar y pethau drwg ’roeddem yn eu gwneud cyn cael y wybodaeth o Dduw. (Actau 3:19) Wrth gwrs, os ydym ni’n slei bach yn dal i arfer pechod yn lle gwneud yr hyn sy’n gyfiawn, ’dydym ni ddim wedi gwir droi at Dduw. Fedrwn ni ddim chwaith guddio’r peth rhag Duw gan fod Jehofah yn gweld trwy bob rhagrith.—Luc 12:2, 3.

8. Be’ ddylech chi’i wneud i gael rhan yng ngwaith pregethu’r-Deyrnas os dyna’ch dymuniad?

8 Gan eich bod chi ers peth amser ’nawr wedi bod yn derbyn y wybodaeth o Dduw i’ch calon, mae’n deg ystyried y pethau ysbrydol hyn mewn ffordd bersonol iawn—ydych chi’n cytuno? Mae’n siŵr eich bod chi’n awyddus i ddweud wrth eich perthnasau, eich ffrindiau, ac eraill, am yr hyn ’rydych chi’n ei ddysgu. Efallai eich bod chi wedi gwneud hyn yn barod, yn rhannu’r newydd da fel Iesu wrth sgwrsio’n naturiol gydag eraill. (Luc 10:38, 39; Ioan 4:6-15) Erbyn hyn, mae’n bosib’ y leciech chi wneud rhagor. Mi fydd henuriaid Cristnogol yn awyddus i drafod pethau gyda chi i weld a ydych chi’n barod i gael rhan yng ngwaith cyson Tystion Jehofah o bregethu’r-Deyrnas. Os felly, fe fydd yr henuriaid yn trefnu i un o’r Tystion gadw cwmni i chi yn y weinidogaeth. Wrth ddilyn cyfarwyddiadau Iesu fe gafodd ei ddisgyblion drefn ar eu gweinidogaeth. (Marc 6:7, 30; Luc 10:1) Mi gewch chithau hefyd help a chefnogaeth wrth ledaenu neges y Deyrnas o dŷ i dŷ ac mewn ffyrdd eraill.—Actau 20:20, 21.

9. Sut mae person yn ymgysegru i Dduw, a pha wahaniaeth mae ymgysegru yn ei wneud i’w fywyd e?

9 Mae pregethu’r newydd da i’r gwahanol bobl yn nhiriogaeth y gynulleidfa yn weithred dda sy’n dangos ein ffydd ni. Dyma sut byddwn yn dod ar draws y rhai cymwys. (Actau 10:34, 35; Iago 2:17, 18, 26) Medrwch ddangos eich bod chi wedi edifarhau o ddifri’, eich bod wedi troi at Dduw, a’ch bod chi ’nawr yn benderfynol o fyw eich bywyd yn ôl y wybodaeth o Dduw wrth ichi fod yn gyson yn y cyfarfodydd Cristnogol a chymryd rhan ystyrlon yn y gwaith pregethu. Be’ ’di’r cam naturiol nesa’? Ymgysegru i Jehofah Dduw. Mewn gweddi, d’wedwch wrth Dduw eich bod yn dymuno â’ch holl galon roi eich bywyd iddo i wneud ei ewyllys. Dyma sut mae ymgysegru i Jehofah a derbyn iau caredig Iesu Grist.—Mathew 11:29, 30.

BEDYDD—EI YSTYR I CHI

10. Pam, ar ôl ymgysegru i Jehofah, ddylech chi gael eich bedyddio?

10 Yn ôl Iesu, mae’n rhaid bedyddio pawb sy’n dod yn ddisgybl iddo. (Mathew 28:19, 20) Pam mae angen gwneud hyn ar ôl i chi’ch cysegru’ch hun i Dduw? Mae eich ymgysegriad yn dangos i Jehofah eich bod chi’n ei garu. Ond mae’n siŵr y byddwch yn barod i gymryd cam pellach er mwyn i eraill wybod hyn hefyd. Dyna’n union ydi bedydd, cyfle ichi fynegi’ch ymgysegriad i Jehofah Dduw yn gyhoeddus.—Rhufeiniaid 10:9, 10.

11. Be’ ’di ystyr bedydd?

11 Mae ’na gyfoeth o ystyr symbolaidd i fedydd. Mae mynd o dan y dŵr, wedi’ch “claddu” allan o’r golwg, fel petaech chi wedi marw i’ch cwrs gynt. Mae dod allan o’r dŵr yn symbol o gychwyn bywyd newydd, sef byw yn ôl cyfraith ewyllys Duw ac nid eich ewyllys eich hun. Wrth reswm, ’dyw hyn ddim yn golygu na fyddwch chi byth yn gwneud camgymeriad eto, gan ein bod ni i gyd yn amherffaith ac yn pechu bob dydd. Ond, a chithau ’nawr yn was bedyddiedig i Jehofah, wedi’ch cysegru iddo, dyma gychwyn ar berthynas arbennig ag e. Gan eich bod chi’n dangos edifeirwch ac yn ymostwng i gael eich bedyddio, mae Jehofah yn barod i faddau eich pechodau chi ar sail aberth pridwerthol Iesu. Mae bedydd felly’n rhoi cydwybod lân inni o flaen Duw.—1 Pedr 3:21.

12. Be’ ’di ystyr cael eich bedyddio (a) “yn enw’r Tad”? (b) ‘yn enw’r Mab’? (c) ‘yn enw’r Ysbryd Glân’?

12 Fe orchmynnodd Iesu i’w ganlynwyr fedyddio disgyblion newydd “yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.” (Mathew 28:19) Beth oedd Iesu’n ei feddwl? Mae bedyddio “yn enw’r Tad” yn golygu fod y person sy’n cael ei fedyddio yn derbyn Jehofah Dduw â’i holl galon, yn Greawdwr a Phenllywydd cyfreithiol y bydysawd. (Salm 36:9; 83:18; Pregethwr 12:1) Mae cael eich bedyddio ‘yn enw’r Mab’ yn golygu cydnabod Iesu Grist—ac yn enwedig ei aberth pridwerthol—fel yr unig gyfrwng iachawdwriaeth mae Duw wedi’i ddarparu. (Actau 4:12) Mae bedyddio ‘yn enw’r Ysbryd Glân’ yn golygu fod y person sy’n cael ei fedyddio yn cydnabod mai grym gweithredol Jehofah ydi’r Ysbryd Glân, arf Duw i weithredu Ei fwriad, a modd rhoi nerth i’w weision i wneud Ei ewyllys gyfiawn trwy Ei gyfundrefn ysbryd-gyfeiriedig.—Genesis 1:2; Salm 104:30; Ioan 14:26; 2 Pedr 1:21.

YDYCH CHI’N BAROD I GAEL EICH BEDYDDIO?

13, 14. Pam na ddylem ni ofni dewis gwas’naethu Jehofah Dduw?

13 Gan fod cymaint ystyr i fedydd a’i fod hefyd yn garreg filltir fwyaf eich bywyd, oes ’na reswm pam ddylech chi ofni cymryd y cam hwn? Dim o gwbl! Er bod penderfynu cael eich bedyddio yn rhywbeth mawr, yn bendant dyma’r penderfyniad mwya’ doeth y medrech chi’i wneud.

14 Mae bedydd yn tystio i chi ddewis gwas’naethu Jehofah Dduw. Meddyliwch am y bobl ’rydych chi’n eu cyfarfod bob dydd. Onid ydi’n wir fod pob un ohonyn’ nhw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd yn gwas’naethu meistr? Mae rhai yn llafurio i ennill cyfoeth. (Mathew 6:24) Mae eraill yn gydwybodol ddilyn eu gyrfa neu’n byw iddynt eu hunain drwy roi eu dymuniadau nhw yn flaenaf mewn bywyd. Mae eraill eto’n gwas’naethu duwiau gau. Ond eich dewis chi ydi gwas’naethu’r gwir Dduw, Jehofah. ’Does neb arall yn debyg iddo, yn garedig, yn dosturiol, ac yn llawn cariad. Mae Duw yn rhoi urddas i fodau dynol drwy gynnig iddyn’ nhw waith â phwrpas iddo, gwaith sy’n eu cyfeirio nhw at iachawdwriaeth. Ei wobr i’w weision ydi bywyd tragwyddol. Yn sicr, nid rhywbeth i’w ofni ydi dilyn cwrs Iesu a rhoi eich bywyd i Jehofah. Yn wir, dyma’r unig yrfa sy’n plesio Duw ac mae’n gwneud synnwyr perffaith.—1 Brenhinoedd 18:21.

15. Be’ ’di rhai pethau allai eich cadw chi rhag cael eich bedyddio?

15 Ond nid cam i’w gymryd dan orfodaeth ydi bedydd. Mater personol ydi e rhyngoch chi a Jehofah. (Galatiaid 6:4) Wrth i chi wneud cynnydd ysbrydol efallai’ch bod chi wedi meddwl: “Beth sy’n rhwystro imi gael fy medyddio?” (Actau 8:35, 36) Holwch eich hun, ‘Ai gwrthwynebiad fy nheulu sy’n fy nghadw i’n ôl? Ydw i rywsut yn dal i weithredu’n anysgrythurol neu ydw i dan ddylanwad rhyw arferiad pechadurus? Ai ofn colli ffafr cymdogion sy’n fy nal i’n ôl?’ Dyma’r math o bethau i’w hystyried o ddifri’.

16. Sut bydd hi o les i chi was’naethu Jehofah?

16 I bwyso’r gost yn realistig peidiwn ag anghofio’r bendithion sy’n dod o was’naethu Jehofah. Er enghraifft, meddyliwch am funud am wrthwynebiad eich teulu. Fe addawodd Iesu y byddai unrhyw ddisgybl oedd yn colli perthnasau o’i achos e yn ennill teulu ysbrydol llawer iawn mwy. (Marc 10:29, 30) Fe fydd y cyd-gredinwyr hyn yn dangos cariad brawdol atoch chi, yn eich helpu i oddef erledigaeth, a’ch cynnal ar lwybr bywyd. (1 Pedr 5:9) Fe all henuriaid y gynulleidfa yn arbennig eich helpu i ymdopi â phroblemau ac i ymateb i unrhyw sialens arall sy’n codi. (Iago 5:14-16) Os mai colli ffafr y byd sy’n eich poeni chi, gofynnwch i chi’ch hun, ‘Be’ sy’n fwy pwysig na chael cymeradwyaeth Creawdwr y bydysawd, a rhoi rheswm iddo i lawenhau am fy mod wedi dewis yr yrfa hon mewn bywyd?’—Diarhebion 27:11.

BYW YN DEILWNG O’CH YMGYSEGRIAD A’CH BEDYDD

17. Pam ddylech chi edrych ar fedydd fel man cychwyn yn hytrach na diwedd gyrfa?

17 Cofiwch mai dechrau gyrfa ydi bedydd nid diwedd eich cynnydd ysbrydol—cychwyn gwas’naethu Duw yn weinidog ordeiniedig, un o Dystion Jehofah am weddill eich bywyd. Er fod bedydd yn holl bwysig ’dyw e ddim yn sicrhau iachawdwriaeth. Geiriau Iesu oedd: “Y sawl sy’n dyfalbarhau i’r diwedd a gaiff ei achub,” nid ‘Caiff y sawl sydd wedi’i fedyddio ei achub.’ (Mathew 24:13) Felly, gwnewch geisio Teyrnas Dduw y peth pwysicaf yn eich bywyd.—Mathew 6:25-34.

18. Pa nodau medrwch chi anelu atyn’ nhw ar ôl cael eich bedyddio?

18 I ddyfalbarhau yn eich gwasanaeth i Jehofah peth da fydd i chi osod nodau ysbrydol i chi’ch hun. Un nod teilwng ydi cynyddu eto yn eich gwybodaeth o Dduw drwy astudio’i Air yn bersonol gyson. Trefnwch i ddarllen y Beibl bob dydd. (Salm 1:1, 2) Ewch i bob cyfarfod Cristnogol oherwydd yno fe gewch nerth ysbrydol yng nghwmni’ch brodyr. Beth am baratoi ar gyfer ateb yng nghyfarfodydd y gynulleidfa? Fel hyn byddwch yn moli Jehofah ac yn adeiladu eraill. (Rhufeiniaid 1:11, 12) Gweithiwch hefyd i wella ansawdd eich gweddïau.—Luc 11:2-4.

19. Pa rinweddau medrwch chi eu dangos gyda help yr ysbryd sanctaidd?

19 Er mwyn byw eich bywyd yn ôl ystyr eich bedydd, mae’n rhaid i chi dalu sylw cyson i’r hyn ’rydych chi’n ei wneud. Gadewch i ysbryd sanctaidd Duw gynhyrchu’r rhinweddau cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, a hunan-ddisgyblaeth, ynoch chi. (Galatiaid 5:22, 23; 2 Pedr 3:11) Cofiwch fod Jehofah yn rhoi ei ysbryd sanctaidd i bawb o’i weision ufudd sy’n gweddïo amdano. (Luc 11:13; Actau 5:32) Felly gweddïwch ar Dduw am ei ysbryd a gofynnwch iddo’ch helpu chi i fedru dangos nodweddion sy’n ei blesio. Wrth i chi ymateb i ddylanwad ysbryd Duw fe fydd y nodweddion hyn yn dod yn fwy amlwg yn eich sgwrsio a’ch ymddygiad chi. Wrth gwrs, mae pob aelod o’r gynulleidfa Gristnogol yn ymdrechu i wisgo “y natur ddynol newydd” amdano er mwyn dod yn debycach i Grist. (Colosiaid 3:9-14) Mae’r sialens i bawb yn wahanol gan ein bod i gyd yn amrywio o ran ein cynnydd ysbrydol. Gan eich bod chi’n amherffaith, mae’n rhaid ichi weithio’n galed i feithrin personoliaeth sy’n Grist-debyg. Gyda help Duw mae hyn yn bosib’. Felly peidiwch byth â digalonni.

20. Sut medrwch chi efelychu Iesu yn y weinidogaeth?

20 Mae esiampl lawen Iesu’n werth ei hefelychu, a dyma nod arall ysbrydol, teilwng. (Hebreaid 12:1-3) ’Roedd e’n caru’r weinidogaeth. Os eich braint chi ydi cael rhan yng ngwaith pregethu’r-Deyrnas, peidiwch â gwneud hynny yn ddi-sbarc. Ceisiwch ei gyflawni, fel Iesu, mewn ffordd sy’n dod â bodlonrwydd mawr i chi wrth i chi ddysgu eraill am Deyrnas Dduw. Rhowch ar waith y pwyntiau sy’n cael sylw yn y cyfarfodydd ynglŷn â sut i wella fel athro. Yn sicr, fe all Jehofah roi nerth i chi i gyflawni’ch gweinidogaeth.—1 Corinthiaid 9:19-23.

21. (a) Sut gwyddom ni fod Jehofah yn trysori unigolion ffyddlon sy’ wedi’u bedyddio? (b) Be’ sy’n dangos fod cael ein bedyddio yn gam pwysig os ydym ni i oroesi gweithredu barn Duw ar y drefn ddrwg bresennol?

21 Mae person sy’ wedi ymgysegru a’i fedyddio ac yn ffyddlon ymdrechu dilyn Iesu yn rhywun mae Duw yn falch iawn ohono. Wrth archwilio calonnau biliynau o bobl mae Jehofah yn dod i wybod mor brin ydi’r rhain. Iddo fe mae’n nhw’n “drysor.” (Haggai 2:7) Yn ôl proffwydoliaethau’r Beibl, mae’r rhain wedi’u nodi i oroesi pan fydd Duw yn gweithredu’r farn sydd i ddod yn fuan ar y gyfundrefn ddrwg bresennol. (Eseciel 9:1-6; Malachi 3:16, 18) Ydych chi wedi’ch “penodi i fywyd tragwyddol”? (Actau 13:48) Ai eich dymuniad diffuant chi ydi cael nod arnoch fel un sy’n gwas’naethu Duw? Mae ymgysegru a bedydd yn rhan o’r nod hwnnw, ac maen’ nhw’n bwysig iawn er mwyn goroesi.

22. Pa ddyfodol fedr y “dyrfa fawr” edrych ymlaen ato?

22 Ar ôl y Dilyw byd-eang, daeth Noa a’i deulu allan o’r arch i fyw ar ddaear wedi’i glanhau. Mewn ffordd debyg heddiw, mae ’na “dyrfa fawr” sy’n byw yn ôl y wybodaeth o Dduw ac sy’n ennill cymeradwyaeth Jehofah, yn edrych ymlaen at oroesi diwedd y drefn ddrwg bresennol a mwynhau bywyd tragwyddol ar ddaear wedi’i glanhau am byth. (Datguddiad 7:9, 14) Sut beth fydd byw y pryd hwnnw?

RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH

Sut mae Jehofah am i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth ohono?

Be’ mae’n rhaid ei wneud cyn cael eich bedyddio?

Ym mha ffordd mae bedydd yn fan cychwyn?

Sut medrwn ni fyw yn deilwng o’n hymgysegriad a’n bedydd?

[Llun ar dudalen 172]

Ydych chi wedi ymgysegru i Dduw mewn gweddi?

[Llun ar dudalen 174]

Be’ sy’n eich rhwystro chi rhag cael eich bedyddio?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu