LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • rq gwers 16 t. 31
  • Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw
  • Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Erthyglau Tebyg
  • A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Bedydd a’ch Perthynas â Duw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • A Ddylwn i Ymgysegru i Dduw a Chael Fy Medyddio?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Bobl Ifanc—Ydych Chi’n Barod i Gael Eich Bedyddio?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
Gweld Mwy
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
rq gwers 16 t. 31

Gwers 16

Eich Penderfyniad i Wasanaethu Duw

Beth y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod yn gyfaill i Dduw? (1, 2)

Sut mae cysegru eich bywyd i Dduw? (1)

Pryd dylech chi gael eich bedyddio? (2)

Sut medrwch chi ymgryfhau i aros yn ffyddlon i Dduw? (3)

1. Er mwyn dod yn gyfaill i Dduw, mae’n rhaid i chi sicrhau gwybodaeth dda am wirionedd y Beibl (1 Timotheus 2:3, 4), roi ffydd yn y pethau ’rydych wedi’u dysgu (Hebreaid 11:6), edifarhau am eich pechodau (Actau 17:30, 31), a newid cwrs eich bywyd. (Actau 3:19) Yna fe ddylai eich cariad chi at Dduw eich cymell chi i’ch cysegru eich hun iddo. Mae hyn yn golygu eich bod yn dweud wrtho mewn gweddi bersonol ddirgel, eich bod yn eich rhoi eich hun iddo i wneud ei ewyllys.—Mathew 16:24; 22:37.

2. Wedi i chi ymgysegru i Dduw, fe ddylech chi gael eich bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Mae cael eich bedyddio yn hysbysu pawb eich bod wedi’ch cysegru’ch hun i Jehofah. Felly mae bedydd yn unig ar gyfer y rhai sy’n ddigon hen i wneud penderfyniad i wasanaethu Duw. Pan gaiff person ei fedyddio, fe ddylid rhoi ei holl gorff o dan y dŵr am ennyd.a—Marc 1:9, 10; Actau 8:36.

3. Wedi i chi ymgysegru, fe fydd Jehofah yn disgwyl i chi wireddu eich addewid. (Salmau 50:14; Pregethwr 5:4, 5) Fe fydd y Diafol yn ceisio eich rhwystro rhag gwasanaethu Jehofah. (1 Pedr 5:8) Ond neséwch at Dduw mewn gweddi. (Philipiaid 4:6, 7) Astudiwch ei Air bob dydd. (Salmau 1:1-3) Glynwch yn agos wrth y gynulleidfa. (Hebreaid 13:17) Wrth wneud hyn oll, fe ymgryfhewch i aros yn ffyddlon i Dduw. Am dragwyddoldeb gyfan, mi fedrwch chi fod yn gwneud y pethau mae Duw yn eu gofyn gennych!

[Troednodyn]

a Fe gymeradwyir astudio Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol, neu lyfr tebyg a gyhoeddir gan y Watch Tower Bible and Tract Society, i baratoi ar gyfer bedydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu