GWERS 8
Gelynion Duw — Pwy Ydyn’ Nhw?
Gelyn pennaf Duw yw Satan y Diafol—ysbryd-greadur gwrthryfelgar a drwg. Yn ei gelwydd mae Satan yn dal i ymladd yn erbyn Jehofah. Mae Satan hefyd yn gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobol ac mae’n creu problemau mawr i bawb ohonom heddiw.—Ioan 8:44.
Daeth ysbryd-greaduriaid eraill i gefnogi Satan yn ei wrthryfel â Duw. Cythreuliaid mae’r Beibl yn eu galw nhw. Mae Satan a’r cythreuliaid yn elynion i fodau dynol, a’u nod ydi poeni a brifo pobl. (Mathew 9:32,33; 12:22) Cyn bo hir mi fydd Jehofah yn difa Satan a’i gythreuliaid am byth. Dim ond ychydig o amser sydd ar ôl iddyn’ nhw ‘nawr. Bydd bywyd yn llawer iawn gwell wedyn.—Datguddiad 12:12.
Os ydych eisiau bod yn ffrind i Dduw, peidiwch â gwneud y pethau sy’n plesio Satan. Mae Satan a’r cythreuliaid yn casáu Jehofah. Gelynion Duw ydyn’ nhw, ac mi fyddan’ nhw’n gwneud popeth i’ch cael chi i droi yn elyn i Dduw. Penderfynwch ‘nawr pwy ‘rydych am ei blesio—Satan neu Jehofah. Os ydych chi eisiau byw am byth penderfynwch wneud ewyllys Duw. Mae gan Satan lawer o driciau i dwyllo pobl a dod â nhw o dan ei ddylanwad.—Datguddiad 12:9.