GWERS 14
Mae Ffrindiau Duw yn Osgoi Drygioni
Mae Satan yn temtio pobl i wneud pethau drwg. Os ydym ni am fod yn ffrind i Dduw mae’n rhaid inni gasáu’r hyn mae Jehofah yn ei gasáu. (Salm 97:10) Dyma rai pethau mae ffrindiau Duw yn eu hosgoi:
Pechodau rhywiol. “Na odineba.” (Exodus 20:14) Nid yw’n iawn chwaith cael rhyw cyn priodi.—Hebreaid 13:4.
Meddwi. “Ni chaiff ... meddwon ... etifeddu teyrnas Dduw.” —1 Corinthiaid 6: 9,10.
Llofruddio, Erthylu. “Na ladd.”—Exodus 20:13.
Dwyn. “Na ladrata.”—Exodus 20:15.
Dweud celwydd. Mae “tafod ffals” yn rhywbeth mae Jehofah yn ei gasáu.—Diarhebion 6:17.
Trais a Gwylltio. “Cas ganddo [yr ARGLWYDD] ‘r sawl sy’n caru trais.” (Salm 11:5) “Y mae gweithredoedd y cnawd [yn cynnwys] ... llidio.”—Galatiaid 5:19,20.
Gamblo. Peidiwch “â chymysgu â neb ... os yw’n ... drachwantus.”—1 Corinthiaid 5:11.
Casineb Hiliol ac Ethnig. “Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid.”—Mathew 5:43,44.
Mae Duw yn dweud y pethau hyn wrthym er ein lles. ‘Dyw hi ddim bob amser yn hawdd osgoi gwneud pethau drwg. Ond gyda help Jehofah a help ei Dystion mi fedrwch chi osgoi gwneud y pethau sy’n gas gan Dduw.—Eseia 48:17; Philipiaid 4:13; Hebreaid 10:24,25.