Cân 3
“Duw, Cariad Yw”
1. Duw cariadlon yw Jehofa,
Dysgwn ganddo sut mae byw.
Yn Grist-debyg, rhaid i ninnau
Garu’n cyd-ddyn, caru Duw.
Graslon boed ein gweithgareddau,
Rhown fudd eraill ar y bla’n.
Cariad Crist boed inni feithrin
Yn ein gorchwyl, yn ein cân.
2. Nerthol yw gweithredoedd cariad,
Nid fel tincial symbal mae;
Ni chythruddir, drwg ni feddwl,
Gyda’r gwir mae’n llawenhau.
Diau, gorau rhinwedd cariad,
Hebddo ofer yw pob dim.
Sut i garu’n brawd, O dysgwn;
Tyner fin amlyga rym.
3. Gochel wnawn rhag hir ddrwgdeimlad,
Glynu wnawn wrth Air geirwir;
Rhown ar waith ganllawiau dwyfol,
Hyfryd odiaeth cariad pur.
‘Caru Duw rhaid a chymydog,’
Ar hyfrytlais Iôn gwrandawn.
Rhown ar waith y ‘ffordd ragorach,’
Tyner fyddwn, cariadlawn.
(Gweler hefyd Marc 12:30, 31; 1 Cor. 12:31–13:8; 1 Ioan 3:23.)