Cân 101
Cyhoeddi Gwirionedd y Deyrnas
Fersiwn Printiedig
1. Goleuni bywyd ddaeth i ni,
Am Jah y clywsom a’i fawr fri.
Teyrnas nefol rydd lesâd—
Llawenydd mawr hir ei barhad.
Cydnabod wnaethom drefn glodwiw
Cyfiawnder Theocratiaeth Duw;
Yna tystio’n ddiymdroi,
Ac i glodfori Jah geirwir ymroi.
Gwirionedd Duw cyhoeddi wnawn,
Ar lais y deiliad fe wrandawn.
Clustfeinio’n ddyfal wna y rhai
A wêl bod moesau’r byd ar drai.
Dymunwn weld mwy eto’n dod I roi i
Dduw Jehofa glod.
Gwasanaethwn, mawr fo’n sêl,
Gan dystiolaethu’n ffyddlon, doed a ddêl.
(Gweler hefyd Jos. 9:9; Esei. 24:15; Ioan 8:12, 32.)