LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • sn cân 114
  • Llyfr Duw—Trysor Yw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Llyfr Duw—Trysor Yw
  • Canwch i Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Llyfr Duw—Trysor Yw
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Llyfr Duw—Trysor Yw
    Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
  • Diolch am Hirymaros Dwyfol
    Canwch Fawl i Jehofah Geiriau yn Unig
  • Trowch at Dduw am Waredigaeth
    Canwn yn Llawen i Jehofa
Gweld Mwy
Canwch i Jehofa
sn cân 114

Cân 114

Llyfr Duw—Trysor Yw

Fersiwn Printiedig

(Diarhebion 2:1)

1. Teg lyfr sydd, ac yn ei dudalennau

Ceir gobaith byd o hedd i’r ddynolryw.

Ei gyngor mwyn weithreda’n hynod nerthol,

Datguddia inni ‘ffordd ragorach’ Duw.

Y llyfr teg hwn yw y Beibl Sanctaidd

A ddaeth i’n meddiant dros ganrifoedd maith.

Cyffrôdd yr ysbryd sanctaidd ddynion ffyddlon;

Ar gael mae’r genadwri ym mhob iaith.

2. Darllenwn ynddo hanes creadigaeth:

Cyfanfyd, Duw a greodd drwy ei nerth;

Fe luniwyd Adda’n berffaith, ond fe gollodd

Baradwys oedd o amhrisiadwy werth.

Ymhellach, hanes gawn am angel— twyllwr,

Bu iddo herio penarglwyddiaeth Duw;

O hyn i gyd daeth pechod a phob cystudd.

Ond buddugoliaeth buan gaiff ein Llyw.

3. Mae gennym reswm mawr dros fod yn llawen:

‘Teyrnasoedd byd a ddaeth yn eiddo Crist;

I Dduw Jehofa perthyn gwaredigaeth.’

Hyn glyw y sawl a rydd i’r Gair ei glust.

Byw wnawn yn ôl canllawiau’r Trysor Bywiol;

Ymborthi gawn ar gysegredig faeth.

Tangnefedd Duw a warchod ein calonnau.

Hyd gyrrau’r byd rhyfeddol lewyrch aeth.

(Gweler hefyd 2 Tim. 3:16; 2 Pedr 1:21.)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu