Cân 77
Byddwn Faddeugar
(Salm 86:5)
1. Cariad yw Jehofa.
Gollwng wnaeth hil Adda’n rhydd;
Rhoes ei Fab i farw trosom;
Sheol, colli wnaeth y dydd.
Os edifar ŷm o’r galon
Cawn faddeuant rhag ein bai.
Rhown ein ffydd yn aberth Iesu
Ac yng ngwerth ei waed di-fai.
2. Dangos wnawn drugaredd,
Efelychwn gariad Duw,
Parod fôm i estyn dwylo,
Balm a rown ar glwyf a briw.
Beunydd goddef wnawn ein gilydd,
‘Ffordd ragorach’ rown ar waith;
Anrhydeddwn bob un aelod.
Cariad Duw i’n calon ddaeth.
3. Rhinwedd yw trugaredd,
Maddau wnawn yn ddiymdroi;
Pell y cadwn rhag drwgdeimlad,
Gwella rhwyg a wnawn yn glou.
Duw cariadlon yw Jehofa,
Trech ei gariad yw na’r cledd.
Boed ein calon yn faddeugar;
Efelychwn Awdur hedd.
(Gweler hefyd Math. 6:12; Eff. 4:32; Col. 3:13.)