Cân 18
Cariad Teyrngar Duw
(Eseia 55:1-3)
1. Ffyddlon Dduw, cariad yw!
Mawr lawenydd leinw’n byw.
Yn ei gariad anfon wnaeth Grist;
Ei Fab i’r ddaear ddaeth.
Ar gyfiawnder rhoes ei fryd,
Trosom talodd bridwerth drud.
(CYTGAN)
Deuwch, chi sychedig rai,
Cym’rwch, yfwch ddyfroedd byw.
Profi gewch, sychedig rai,
Ofal tirionaf Dduw.
2. Ffyddlon Dduw, cariad yw!
Creu a wnaeth gyfanfyd gwiw.
Mawr frenhiniaeth roes i Grist
Am ei ffyddlon waith yn Dyst.
Teg gyfamod roed ar waith,
Teyrnas dros bob llwyth ac iaith.
(CYTGAN)
Deuwch, chi sychedig rai,
Cym’rwch, yfwch ddyfroedd byw.
Profi gewch, sychedig rai,
Ofal tirionaf Dduw.
3. Ffyddlon Dduw, cariad yw!
Boed grym cariad yn ein byw.
Cymorth rown i’r addfwyn rai,
Ceisio maent ffordd Iôr di-fai.
Yn ofn Duw pregethu wnawn,
I’r holl fyd â chysur awn.
(CYTGAN)
Deuwch, chi sychedig rai,
Cym’rwch, yfwch ddyfroedd byw.
Profi gewch, sychedig rai,
Ofal tirionaf Dduw.
(Gweler hefyd Salm 33:5; 57:10; Eff. 1:7.)