Cân 27
O Blaid Jehofa!
1. Yfed gynt wnaethom o ‘win’ crefydd gau,
Tristwch a lanwodd ein byw yn ddiau;
Yna fe glywsom am Deyrnas ddi-fai,
Nerth ei llawenydd yw Jah.
(CYTGAN)
Addolwch Jehofa;
Ei eiriau gwrandewch:
‘Byth, byth ni’th adawaf.’
Yn ffyddlon parhewch.
Anogwch gymydog:
‘Crist, teyrnasu mae,
Hedd leinw y ddaear;
Ni ddaw eto wae.’
2. Hapus yw’n calon, gwas’naethwn ein Duw;
Geiriau’r gwirionedd byd cyfan a glyw.
Hyfryd frawdoliaeth o blith dynolryw
Moli wna sanct enw Jah.
(CYTGAN)
Addolwch Jehofa;
Ei eiriau gwrandewch:
‘Byth, byth ni’th adawaf.’
Yn ffyddlon parhewch.
Anogwch gymydog:
‘Crist, teyrnasu mae,
Hedd leinw y ddaear;
Ni ddaw eto wae.’
3. Erlid wna Satan drwy ddichell a thrais;
Anodd yw’n dyddiau a’u pwysedd parhaus.
Mewn cyfnod adfyd dyrchafwn ein llais:
‘Caer a chadernid yw Jah.’
(CYTGAN)
Addolwch Jehofa;
Ei eiriau gwrandewch:
‘Byth, byth ni’th adawaf.’
Yn ffyddlon parhewch.
Anogwch gymydog:
‘Crist, teyrnasu mae,
Hedd leinw y ddaear;
Ni ddaw eto wae.’
(Gweler hefyd Salm 94:14; Diar. 3:5, 6; Heb. 13:5.)