Cân 46
Jehofa Yw Ein Brenin!
(Salm 97:1)
1. Rhowch fawl a chlod i’n Iôr, Jehofa!
Nefoedd loyw a draetha gyfiawnder Duw.
Ei weithredoedd clodforus, eu hadrodd a wnawn;
Cân o foliant cyrrau’r byd a glyw.
(CYTGAN)
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch
Â’ch caneuon mawl i’n Brenin, Jah!
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch;
Seiniwch fythol glod Jehofa Jah!
2. Cyhoeddi wnawn yng nghlyw’r cenhedloedd
Holl gampweithiau achubol yr Uchaf Fod;
Down gerbron ei orseddfa, ymgrymu a wnawn.
Bloeddiwn fawl, rhown iddo fythol glod.
(CYTGAN)
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch
Â’ch caneuon mawl i’n Brenin, Jah!
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch;
Seiniwch fythol glod Jehofa Jah!
3. Teyrnasu Duw a ddaeth i’w anterth—
Llywodraetha ei Gynfab, O llawenhawn!
Cywilyddir gau dduwiau a delwau y byd.
Clod i’n Iôr Jehofa! Ef mawrhawn.
(CYTGAN)
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch
Â’ch caneuon mawl i’n Brenin, Jah!
Engyl nef llawenhewch, llwythau daear na thewch;
Seiniwch fythol glod Jehofa Jah!
(Gweler hefyd 1 Cron. 16:9; Salm 68:20; 97:6, 7.)