Cân 50
Dwyfol Batrwm Cariad
1. Jehofa a gâr â chariad diderfyn
Dorf ddi-ri’,
Fel nyni.
O ddilyn ei Air fe gawn ein hamddiffyn;
Peryg cwymp sy’,
I chi a fi.
Dilynwn ffordd Duw; ein gwahodd mae’n gynnes
I rodio yn gywir, cwbl ddirodres;
Cawn heddwch ac undod brawdol yn lloches.
Gwelwn yn Nuw
Ar waith gariad gwiw.
2. Cyfarchwn ein brawd yn gynnes, ddiffuant;
Ato awn,
Sgwrsio wnawn.
Fe rannwn â’n brawd yr hyn sy’n ein meddiant;
Bendith a gawn,
Duw a fawrhawn.
Estynnwn faddeuant parod y Cristion,
Yn serchog fo’n gwedd, yn gyson gariadlon.
Pob peth haedda glod boed sail ein myfyrion.
Tyner ein min,
Byw wnawn yn gytûn.
3. O’r galon y daw gwasanaeth diffuant;
Boed ni’n driw
Tra bôm byw.
Ymrown i le daenu mawredd a moliant
Ffyddlonaf Lyw,
Jehofa Dduw.
Cyhoeddi yr enw dwyfol, digymar
Cynhyrfu a wna trigolion y ddaear;
Fe wêl defaid rai ar waith gariad hawddgar.
Yn ddiymwad
Gwna gariad lesâd.
(Gweler hefyd Rhuf. 12:10; Eff. 4:3; 2 Pedr 1:7.)