Cân 75
Sail Ein Llawenydd
1. Hyfrydwch sy’n llenwi’n calonnau
O weld bendith Duw ar ein gwaith;
Trysorau ysbrydol cenhedloedd
Ymunant â’r dorf amliaith.
Jehofa a roes in lawenydd,
Ein calon, adfywio a wna;
O ddilyn ei hyfryd ganllawiau
Perarogl fyddwn i Jah.
Yn fawr yn ein plith mae Sanct Israel,
Rhown iddo bob clod a mawrhad.
Trwy fynych dreialon a gofid
Fe nertha ein dyfalbarhad.
(CYTGAN)
O, ddyfnder doethineb ein Duw;
Ysblander y nef, campwaith yw!
Dae’r deg inni roes Iôr hirymarhous;
Hyfrydwch a leinw ein byw.
2. Gosodwyd y sêr yn yr wybren
Mewn gofod difesur ei faint;
Y dyfnfor arswydus a’r glastir,
Clodfori rym Jah beunydd maent.
Yn fuddugoliaethus fe dystiwn
Am Deyrnas ddilychwin ein Duw,
Dywedwn am rasol fendithion
A ddaw i’r ystyriol a glyw.
Yn gwawrio mae dydd o lawenydd,
Â’n câr ymhyfrydu a wnawn.
Gorfoledd! Y nef a’r ddae’r newydd
Weinyddant yn deg ac uniawn.
(CYTGAN)
O, ddyfnder doethineb ein Duw;
Ysblander y nef, campwaith yw!
Dae’r deg inni roes Iôr hirymarhous;
Hyfrydwch a leinw ein byw.
(Gweler hefyd Deut. 16:15; Esei. 12:6; Ioan 15:11.)