Cân 107
Dewch i Fynydd Jehofa
(Eseia 2:2-4)
1. Gwelwch fynydd ein Duw,
Uwch na’r bryniau oll y mae;
Hawddgar a dyrchafedig,
Teg olygfa, diau.
Pobloedd lawer a ddônt
O bob gwlad, o fôr i fôr;
Annog a wnânt ei gilydd,
‘Down, addolwn fawr Iôr.’
‘Daeth yr amser,’ medd Duw,
‘Imi dywallt bendithion o’r nef;
Daw’r lleiafrif yn llwyth,
A’r ychydig yn genedl gref.’
Cais miliynau yn awr
Benarglwyddiaeth graslon Dduw;
Safant gerbron Jehofa,
Torf heddychol a thriw.
2. Crist, gorchymyn a roes,
‘Ewch, cyhoeddwch newydd da.’
Traethwn am hyfryd Deyrnas,
Lles ei threfn a barha.
Crist deyrnasa. I’w lef
Addfwyn rai ymateb wnânt.
Ceisio y maent gyfiawnder
Uwch i’w teulu a’u plant.
Tyrfa fawr i’w grym ddaeth!
Torf ryfeddol ei min, amliaith!
Taenu’r Gair, mawr yw’n gwaith;
Ein lleferydd i’r holl fyd a aeth.
Clyw’r ddynoliaeth ein llef,
‘Dewch i fynydd sanctaidd Jah,
Profwch fawr les cyfundrefn
Iôr daionus a da.’
(Gweler hefyd Salm 43:3; 99:9; Esei. 60:22; Act. 16:5.)