Cân 86
Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol
1. Sara ac Esther, Mair a Ruth ac eraill—
Gwragedd ffyddlonaf a medrus oedd y rhain;
Byw bywyd duwiol a roesant ar y blaen.
Medrwn ddarllen am eu hanes—cofnod sydd.
Cafodd eraill ffafr gan Jehofa;
’Wyddom ni mo’u hanes, ond amlwg oedd eu ffydd.
2. Teyrngar a dewr, daionus a charedig;
Dyma rinweddau sy’n ganmoladwy, gwiw—
Teg batrwm ydynt i bawb o’r ddynolryw.
Ar rinweddau anllygredig rhown ein bryd.
Cynorthwyo wnawn ein glân chwiorydd;
Teilwng yw’ch gwasanaeth. O bydded gwyn eich byd.
3. Famau, chwiorydd, ferched glân, a gweddwon,
Llesol eich llafur gwirfoddol a chlodwiw.
Tegwch eich calon a rynga fodd eich Duw.
Eich ymostwng duwiolfrydig ef a wêl.
Yn ddiogel boed i Jah eich cadw.
Gwerthfawr ydych iddo; gwobrwyo wna eich sêl.
(Gweler hefyd Phil. 4:3; 1 Tim. 2:9, 10; 1 Pedr 3:4, 5.)