Cân 68
Gweddi Un Mewn Cyfyngder
(Salm 4:1)
1. O ateb fi pan alwaf arnat Jah,
drugarog Dduw—
Di galon wyf a chlwyfus; yn
dy gariad rhwyma ’mriw.
Darostyngedig ydwyf, mawr yw’r gofid
ddaeth i’m ran;
Disgwyliaf wrthyt, Dduw, fy nghraig;
cythryblus wyf a gwan.
(CYTGAN)
Cryfhau fy ffydd a’m gobaith wna
Tosturiol Iôr, Jehofa Jah.
Griddfannau f’enaid ef a glyw;
Gwrandawiad gaf, a’r nerth i fyw.
2. Mawr gysur mewn cyfyngder rydd dy Air.
Fe ddof yn nes
At Un sy’n gwrando ’ngweddi;
tirion ysbryd rydd im les.
O rodio llwybrau uniawn, mawr ddiddanwch
ddaw i mi
O wybod bod dy gariad, Iôr,
yn fwy na’m calon i.
(CYTGAN)
Cryfhau fy ffydd a’m gobaith wna
Tosturiol Iôr, Jehofa Jah.
Griddfannau f’enaid ef a glyw;
Gwrandawiad gaf, a’r nerth i fyw.
(Gweler hefyd Salm 42:6; 119:28; 2 Cor. 4:16; 1 Ioan 3:20.)